English icon English
Eluned Morgan Headshot-2

Gostwng oedran sgrinio’r coluddyn i 51 oed yng Nghymru

Bowel screening age lowered to 51 in Wales

Bydd pobl 51-54 oed yng Nghymru nawr yn cael profion sgrinio’r coluddyn i’w defnyddio gartref yn awtomatig drwy’r post er mwyn canfod canser yn gynnar ac achub bywydau.

 

Mae bron naw allan o bob deg o bobl yn goroesi canser y coluddyn os bydd y canser yn cael ei ganfod a’i drin yn gynnar.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn annog pobl i ddefnyddio’r prawf pan fydd yn cyrraedd.

Dywedodd: “Hyd yn oed yng nghyfnodau cynnar canser y coluddyn gallech chi deimlo’n iach. Felly mae’n hanfodol sgrinio er mwyn canfod canser cyn i unrhyw symptomau ymddangos, gan fod canfod canser a’i drin yn gynnar yn golygu bod llawer iawn mwy o bobl yn goroesi.”

Gan ddechrau heddiw (ddydd Mercher 4 Hydref), bydd pobl 51-54 oed, sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, yn cael y cyfle i sgrinio eu hunain ar gyfer canser, a byddant yn cael prawf sgrinio’r coluddyn, sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn awtomatig drwy’r post bob dwy flynedd.

Bydd y rhaglen yn cael ei gweithredu’n raddol ar gyfer y grŵp oedran sydd newydd ddod yn gymwys yn ystod y flwyddyn nesaf.

Canser y coluddyn yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru. Rhwng 2018-2020 cafodd bron 7000 o achosion canser y coluddyn eu cofnodi, ond serch hynny mae canran uchel o bobl yn goroesi.

Mae cwblhau prawf gartref yn rhan o broses sgrinio’r coluddyn. Yn 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru brawf gartref FIT (Faecal Immunochemical Test) newydd sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae’r prawf hwn yn fwy sensitif, sy’n golygu ei fod yn gallu canfod canser y coluddyn mewn modd mwy effeithiol ar gyfer y rheini sydd mewn perygl, ac mae wedi helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar y broses sgrinio i 65% yn y grŵp oedran presennol o ddynion a menywod 55 – 74 oed.

Mae’r newid yn rhan o ddull gweithredu fesul cam i ostwng yr oedran sgrinio i 50, yn seiliedig ar yr argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Dw i’n falch iawn o weld bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael y cyfle i fanteisio ar brofion sgrinio’r coluddyn. Gall y profion hyn achub bywydau.

“Y llynedd, fe wnaethon ni ehangu’r broses sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i gynnwys pobl 55 i 57 oed. Bydd y cam nesaf hwn nawr yn ehangu’r broses i gynnwys pobl 51 i 54 oed, a’n bwriad yn y dyfodol yw gostwng yr oedran i 50 yn 2024.

“Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, byddwn hefyd yn gwella sensitifrwydd y prawf i sicrhau ei fod yn fwy effeithiol wrth ganfod canser.

 “Er ei bod yn dda gweld bod nifer uchel o bobl yn manteisio ar y cyfle i gael y prawf ar hyn o bryd, nid yw oddeutu traean y bobl sy’n cael y cynnig yn manteisio arno. Felly hoffwn annog pawb sy’n cael cynnig y prawf i fanteisio ar y cyfle hwn gan y gallai achub eu bywyd.”

Dywedodd Steve Court, Pennaeth Sgrinio Coluddion Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Dw i mor falch ein bod yn gallu ehangu’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i gynnwys pobl 51 i 54 oed yng Nghymru.

“Mae sgrinio’r coluddyn yn gallu helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, hyd yn oed os nad oes unrhyw symptomau gennych. Mae canfod canser yn gynnar mor bwysig gan y bydd 9 allan o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os yw’n cael ei ganfod a’i drin yn gynnar. Mae sgrinio’r coluddyn hefyd yn canfod polypau a all droi’n canser, er mwyn eu tynnu cyn bod hynny’n digwydd.

“Bydd y gwahoddiad a’r prawf yn cael eu hanfon drwy’r post at y rheini sy’n gymwys yn ystod y 12 mis nesaf. Mae’n hawdd cwblhau’r prawf a’i anfon i’n labordy i gael ei ddadansoddi.

“Hoffwn annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig. Gallai achub eich bywyd.”

Dywedodd Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK:

“Mae hyn yn newyddion ffantastig ac yn gam enfawr i’r cyfeiriad iawn tuag at ddechrau sgrinio pobl pan fyddant yn troi’n 50 oed yng Nghymru. Dyma rywbeth rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu drosto ers amser hir. Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, pan fydd yn llawer haws ei drin, neu mewn rhai achosion, bydd yn bosibl ei rwystro rhag datblygu yn y lle cyntaf. Felly rydyn i’n croesawu’r cyfle i wahodd mwy o bobl i gwblhau’r prawf, ac rydyn ni’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn pan fyddan nhw’n cael y cynnig.”