English icon English

Grant Hanfodion Ysgol yn agor i gefnogi teuluoedd yn y flwyddyn ysgol nesaf

School Essentials Grant opens to support families for next school year

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi bod y Grant Hanfodion Ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf bellach ar agor.

Gall plant y mae eu teuluoedd ar incwm is ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais am grant o £125 y dysgwr a £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda chostau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd).

Mae teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn gymwys i wneud cais.

Mae’r grant, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel y Grant PDG – Mynediad, yn darparu cyllid ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â mynd i'r ysgol, fel prynu gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac offer.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn helpu i leihau'r baich ariannol a roddir ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi plant i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion."

"Mae teuluoedd yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd costau byw, a dyna pam rydym hefyd wedi cyflwyno canllawiau newydd i helpu ysgolion i gadw costau dillad ysgol i lawr. Rwyf wedi gofyn i ysgolion adolygu eu polisïau gwisg ysgol fel mater o flaenoriaeth.

"Y Grant Hanfodion Ysgolion yw'r lefel uchaf o gymorth ariannol sydd ar gael yn y DU. Mae tua 98,000 o blant a phobl ifanc yn gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol ac rwy’n annog pobl i wirio a ydynt yn gymwys i gael y cymorth hwn i'w helpu i brynu eitemau ysgol hanfodol i'w plentyn."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Grant Hanfodion Ysgol | LLYW.CYMRU.