Grŵp i adolygu trafnidiaeth yn y Gogledd
Group announced to review transport in North Wales
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi panel o gomisiynwyr annibynnol a fydd yn argymell sut i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig yn y Gogledd.
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi panel o gomisiynwyr annibynnol a fydd yn argymell sut i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig yn y Gogledd.
Ym mis Chwefror, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog gynlluniau i sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth ar gyfer y Gogledd dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.
Yn ystod ymweliad â menter drafnidiaeth arloesol yn Sir Ddinbych, cyhoeddodd aelodaeth y grŵp a'r meysydd y bydd yn canolbwyntio arnynt. Cafodd y Dirprwy Weinidog weld y bws Fflecsi trydan a fydd yn gwasanaethu ardal Rhuthun. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, dyma'r bws mini cwbl ddi-allyriadau cyntaf erioed yn Sir Ddinbych. Mae ganddo 16 sedd ac yn rhedeg ar fatri.
Yn yr un modd â chynlluniau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, mae Fflecsi yn wasanaeth sy'n ymateb i'r galw, gyda theithwyr yn archebu eu taith awr ymlaen llaw. Bydd yn cyflwyno gwasanaeth bws i lawer o bobl yn Rhuthun am y tro cyntaf.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Rwy'n falch cael bod yn Sir Ddinbych i gyhoeddi enwau'r comisiynwyr a fydd yn ffurfio Comisiwn Trafnidiaeth y Gogledd, a’r hyn y byddant yn ei wneud. Mae gwasanaeth bws newydd Fflecsi Rhuthun yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig mewn ffordd gynaliadwy. I lawer o bobl, dyma'r tro cyntaf iddynt gael gwasanaeth bws o'u cartrefi, gan roi dewis go iawn iddynt yn lle defnyddio car ar gyfer teithio yn yr ardal.
"Bydd Comisiwn Trafnidiaeth y Gogledd yn adeiladu ar y gwaith gwych, fel y gwasanaeth Fflecsi hwn, sydd eisoes yn cael ei wneud gan raglen Metro Gogledd Cymru, ac yn ystyried anghenion pob cymuned; trefol a gwledig, ar hyd yr arfordir ac ymhell o’r môr.
"Bydd yn seiliedig ar fodel llwyddiannus Comisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain, lle rydym yn dechrau gweld ein cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn troi’n realiti ar ôl blwyddyn o waith caled.
"Dyma'r cyfle i sicrhau bod gan y Gogledd y rhwydwaith trafnidiaeth sy'n diwallu ei anghenion ar gyfer y dyfodol, ac sy'n delio â'r heriau sy'n ein hwynebu gyda'r argyfwng hinsawdd.
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r chwe chomisiynydd a fydd yn mynd â'r gwaith hwn yn ei flaen ac yn rhoi argymhellion i mi y flwyddyn nesaf. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad a gwybodaeth ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw."
Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru Lesley Griffiths: "Dyma newyddion da i’r Gogledd. Rwy'n falch mai’r Arglwydd Burns sy’n cadeirio'r comisiwn hwn, yn dilyn ei waith ardderchog yn y De-ddwyrain. Mae gan hyn y potensial i ddod ag argymhellion effeithiol ac arloesol ar sut i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y rhanbarth cyfan."
Y chwe chomisiynydd yw:
Yr Athro John Parkin
Athro Peirianneg Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Drafnidiaeth a Chymdeithas.
Ashley Rogers
Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy.
Dyfed Edwards
Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru a chyn Arweinydd Cyngor Gwynedd
Dr Georgina Santos
Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac economegydd â diddordeb mewn economeg trafnidiaeth ac amgylcheddol a pholisi cyhoeddus.
Sue Flack
Cyn Gyfarwyddwr Cynllunio a Thrafnidiaeth Cyngor Dinas Nottingham, sydd bellach yn ymgynghorydd trafnidiaeth annibynnol sy'n arbenigo mewn integreiddio cynllunio a thrafnidiaeth.
Stephen Joseph OBE
Cynghorydd a chyn Gyfarwyddwr yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well.
Cefnogir y Comisiwn gan Ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. O hyn, mae'r Dirprwy Weinidog wedi penodi Aelodau Ymgynghorol i'r Comisiwn ar sail eu harbenigedd penodol. Sef;
Glyn Evans
Arweinydd Teithio Llesol - Gogledd Cymru, Trafnidiaeth Cymru
Ruth Wojtan
Rheolwr Prosiect Datblygu Strategol Metro Gogledd Cymru
Bydd y Comisiwn yn defnyddio tystiolaeth i gynhyrchu argymhellion a fydd yn helpu i ddarparu system drafnidiaeth integredig o ansawdd uchel ar gyfer y Gogledd, gan wella'r ffordd rydym yn teithio tra'n lleihau allyriadau. Bydd casgliadau Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru, a gyflwynir flwyddyn nesaf, yn rhan o'r dystiolaeth honno ar gyfer y Comisiwn.