English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Gwaed wedi ei heintio: y dyddiad cau ar gyfer cymorth ariannol yn nesáu

Infected blood: Deadline approaching for financial support

Mae gan aelodau teuluoedd, sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i’r GIG yn darparu gwaed a oedd wedi ei heintio, tan ddiwedd y mis i fod yn gymwys i gael taliad sydd wedi eu hôl-ddyddio, os nad ydynt wedi gwneud cais eto.

Mae’r Gweinidog Iechyd yn annog y rheini yng Nghymru sydd â hawl i gael cymorth ariannol i gyflwyno eu cais erbyn 31 Mawrth 2022.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd camau pwysig i wella’r cymorth ariannol sydd ar gael i’r rheini sydd wedi dioddef oherwydd gwaed a oedd wedi ei heintio, naill ai drwy gael gwaed heintiedig eu hunain neu oherwydd bod gwaed heintiedig wedi cael ei roi i rywun arall.

“Fodd bynnag, dw i’n gwybod y gallai fod rhai pobl sydd heb wneud cais eto am y cymorth angenrheidiol y maen nhw’n ei haeddu, wrth inni gydnabod yr effeithiau hynod ddinistriol y mae hyn wedi ei gael ar eu bywydau.

“Mae gan y rheini sydd wedi dioddef profedigaeth, nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynllun hyd yn hyn, tan 31 Mawrth 2022 i wneud cais i Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru, i gael cymorth sydd wedi ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019 os ydyn nhw’n gymwys.”

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a gwelydd eraill y DU, y byddai’r cymorth ariannol sydd ar gael i’r buddiolwyr sydd wedi dioddef profedigaeth yn cael ei ymestyn i ddarparu 100% o’r gyfradd a roddir i’r buddiolwyr a gafodd eu heintio, am y flwyddyn gyntaf, ac wedyn 75% yn y blynyddoedd dilynol. Byddai hyn yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019 i’r buddiolwyr presennol sydd wedi dioddef profedigaeth, ac unrhyw geisiadau newydd sy’n cael eu gwneud cyn 31 Mawrth 2022.

Mae’r taliadau hyn yn ddi-dreth ac yn cynyddu bob blwyddyn i gyd-fynd â chostau byw, gan amrywio o ychydig dros £14,000 i bron £34,000 y flwyddyn, gan ddibynnu ar ddiagnosis eu diweddar bartner.

Bydd unrhyw un sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i waed heintiedig, sy’n cysylltu â’r cynllun ar ôl 1 Ebrill 2022, yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais, ond bydd unrhyw daliadau’n dyddio o ddyddiad y cais ac ni fyddant yn cael eu hôl-ddyddio i 2019.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cartref - WIBSS (wales.nhs.uk)

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Notes to Editors 

WIBSS can be contacted at Wales Infected Blood Support Scheme, 4th Floor, Companies House, Crown Way, Cardiff, CF14 3UB

Telephone: 02920 902280 

Email: wibss@wales.nhs.uk