Gwaith ffordd hanfodol i'w wneud ar yr A40
Essential road works to take place on A40
Caiff modurwyr eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr A40 rhwng Halfway a Llanymddyfri rhwng 12 Hydref a 6 Mai wrth i waith ffordd sylweddol gael ei wneud i sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor y ffordd.
Bydd y gwaith, sy'n cynnwys atgyweirio llethr lle y mae tebygolrwydd o dirlithriad a gosod system ddraenio newydd a rhwystrau diogelwch ar y llwybr, yn cael ei wneud dros ambell benwythnos neu noson pan fydd y ffordd ar gau ac un lôn ar gau gan ddefnyddio signalau traffig dros dro yn ystod yr wythnos. Mae'r holl gamau hyn wedi'u rhoi ar waith i geisio sicrhau cyn lleied o â phosibl o aflonyddwch.
Bydd terfyn cyflymder dros dro o 40mya hefyd mewn grym drwy gydol y gwaith.
Bydd angen i'r lôn tua'r gorllewin barhau ar gau y tu allan i gyfnodau cau'r ffordd er mwyn diogelu defnyddwyr y ffordd rhag ansefydlogrwydd dros dro llethr y toriad tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo a bydd y lôn yn ailagor pryd bynnag y bo modd yn ystod cyfnod y cynllun.
Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi aflonyddwch yn y tymor byr tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau cadernid y ffordd yn y dyfodol.
Nodiadau i olygyddion
Mae mwy o fanylion am y gwaith ffordd a chau ffyrdd ar gael yn y ddolen ganlynol: Gwaith sefydlogi’r pridd yn Halfway, A40: Cwestiynau Cyffredin | Traffig Cymru