English icon English

Gwaith ffordd wedi'i aildrefnu i ddechrau ar yr A470

Rescheduled road works to begin on A470

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio gan y bydd gwaith ffordd mawr yn cychwyn a bydd rhan gyfan yn cau ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach ar 20 Ionawr ac yn dod i ben ar 11 Ebrill. Daw hyn yn dilyn gohirio'r gwaith oherwydd y gwrthdrawiad ar reilffordd y Cambria ym mis Hydref.

Tra bydd y rhan o'r ffordd ar gau yn llwyr caiff y goleuadau traffig 2 ffordd eu hailosod ar y safle er mwyn gallu gorffen y gwaith adeiladu. Bydd yr holl drefniadau rheoli traffig yn dod i ben ar y safle erbyn 30 Ebrill 2025. Mae cyfnod y gwaith wedi'i estyn er mwyn galluogi gwyriad mawr o'r system ddŵr. Eto i gyd, y gobaith yw y gall y gwaith gael ei gwblhau cyn y dyddiad hwn os oes modd.

Bydd y gwaith yn datrys unwaith ac am byth broblem y wal sy'n cynnal y ffordd. Disgynnodd honno ym mis Hydref 2023 gan orfodi cau'r ffordd ar ffyrdd. Mae goleuadau wedi bod yn rheoli'r traffig ers hynny

Mae gan ran o lwybr y dargyfeirio, yr A458 yn Nant y Dugoed, signalau traffig ar waith yn dilyn cwymp y wal, ond does dim disgwyl i hyn ychwanegu'n sylweddol at amseroedd teithio. Bydd gwaith i sefydlogi'r wal yn cael ei wneud cyn gynted ag y bydd y gwaith yn Nhalerddig wedi'i gwblhau.

Bydd y gwaith yn gwneud yr A470 yn fwy cydnerth ac yn golygu na fydd y gofyn i gau'r ffordd mewn argyfwng, a'r tarfu yn sgil hynny, mor debygol o ddigwydd.

Bydd y gwaith o drwsio'r wal gynnal uwchlaw'r Afon Laen gerllaw yn golygu cau'r ffordd bob dydd trwy’r dydd gydol y cyfnod hwn. Mae'r peirianwyr ffyrdd, fodd bynnag, yn gwneud eu gorau i gadw cyfnod y gwaith mor fyr â phosibl.

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod.  Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi tarfu yn y tymor byr tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd.

Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd er mwyn sicrhau gwytnwch y ffordd ar gyfer y dyfodol.