English icon English
same day surgery unit-2

Gwaith i wella gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cyflymu

Work to improve urgent and emergency care picks up pace

Mae gwasanaethau newydd yn cael eu datblygu i wella mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ledled Cymru fel bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Mae'r GIG yn gwneud newidiadau a gwelliannau i'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau – gan gynnwys cynyddu staffio mewn meysydd hollbwysig – fel rhan o'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng.

Fe'i cynlluniwyd i gefnogi gofal brys a gofal mewn argyfwng, i helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau mor agos i'w cartrefi â phosibl a dim ond treulio amser yn yr ysbyty pan fo angen.

Gan fod y GIG a'r system gofal yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen, bydd £25m ychwanegol ar gael bob blwyddyn i gefnogi'r rhaglen Chwe Nod.

Yn 2022/2023, mae hyn yn cynnwys tua £20 miliwn i fyrddau iechyd a’u partneriaid i gynyddu capasiti gwasanaethau gofal sylfaenol brys a gofal mewn argyfwng yr un diwrnod a chronfa arloesi a chyflawni newydd, gwerth £4 miliwn, i helpu prosiectau a fydd yn cael eu cydlynu’n genedlaethol i gyfrannu at gyflawni’r chwe nod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae'r GIG o dan lawer o bwysau ar hyn o bryd ond bob dydd mae'n darparu gofal sy'n achub bywydau ac yn newid bywydau i ddegau o filoedd o bobl ledled Cymru.

"Mae'r rhaglen Chwe Nod wedi'i chynllunio i helpu i wella mynediad i ofal brys a gofal mewn argyfwng i'r holl bobl hynny sydd angen y gofal hwn a sicrhau bod gwasanaethau amgen ar gael i'r bobl hynny sydd angen math gwahanol o ymateb – rydym am i bawb gael y gofal gorau posibl, cyn gynted â phosibl ac mor agos i'w cartrefi â phosibl. Ond mae hefyd yn bwysig eu bod yn ei gael o'r gwasanaeth cywir y tro cyntaf."

Bydd y Gweinidog Iechyd yn ymweld ag Uned Triniaethau Dydd mewn Argyfwng yn Ysbyty Tywysoges Cymru heddiw (dydd Iau 19 Mai) sy’n darparu triniaeth yr un diwrnod ar gyfer achosion brys.

Mae hyn yn galluogi cleifion i gael eu gweld yn gynt a dychwelyd adref, pan fydd yn ddiogel iddynt wneud hynny, gan olygu bod gwelyau ysbytai ar gael i’r cleifion hynny sydd angen aros dros nos. Ym mlwyddyn gyntaf yr uned, cynyddodd nifer y cleifion yr oedd modd eu rhyddhau i fynd adref ar ôl archwiliad a thriniaeth, o fewn tair awr, o 28% i 80%. Lleihaodd nifer y cleifion a gafodd eu derbyn ar gyfer gweithdrefnau llawfeddygol o 35% i 10%.

Dywedodd Simon Weaver, yr Ymgynghorydd sy’n rhedeg yr uned yn Ysbyty Tywysoges Cymru: “Profiad y claf yw ein blaenoriaeth yn yr uned bob amser. Pwrpas ein huned yw darparu’r driniaeth orau a mwyaf addas i gleifion ar yr adeg iawn.

“O ganlyniad i hyn, rydym yn gweld canlyniadau gwell i’n cleifion, gan eu galluogi i symud ymlaen gyda’u bywydau bob dydd yn llawer cynt. Drwy ddarparu triniaeth yn y ffordd hon, rydym nid yn unig yn lleihau amseroedd aros a chostau yn sylweddol, ond yn bwysicaf oll, rydym yn rhoi anghenion y claf gyntaf.”

Dyma’r chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng;

  1. Cydgysylltu, cynllunio a chymorth ar gyfer pobl sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng
  2. Cyfeirio pobl i’r lle iawn y tro cyntaf
  3. Mynediad at ddewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty
  4. Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl
  5. Darparu’r gofal gorau posibl i’r claf ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty
  6. Dull ‘gartref yn gyntaf’ a lleihau’r risg o orfod mynd yn ôl i’r ysbyty

Gofynnir i bob bwrdd iechyd gyflwyno cynlluniau sy'n dangos eu bod yn bodloni blaenoriaethau'r rhaglen, sy'n cynnwys sefydlu canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod; recriwtio timau gwella rhaglenni Chwe Nod newydd sy'n cynnwys arbenigedd clinigol, gweithredol a dadansoddol a gweithio ar brosiectau ychwanegol sy'n cyd-fynd â chyflawni un neu fwy o'r chwe nod.

Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ers lansio'r cynllun ac mae'n cynnwys cyflwyno'r gwasanaeth 111 ledled Cymru ledled Cymru yn genedlaethol – mae cyngor iechyd brys bellach ar gael ledled Cymru, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar ôl i'r llinell gymorth 111 gael ei chyflwyno'n llwyddiannus.

Bydd y gwasanaeth, sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac sydd ar gael ar-lein yn 111.wales.nhs.uk neu dros y ffôn drwy ffonio 111, yn rhoi'r cyngor a'r arweiniad iechyd diweddaraf i bobl ar ba un o wasanaethau’r GIG sy'n iawn iddyn nhw.

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys mwy na 65 o wirwyr symptomau a gwybodaeth am wasanaethau lleol, a dylai pawb edrych ar y wefan yn gyntaf cyn cysylltu dros y ffôn.

Nodiadau i olygyddion