English icon English

Gwasanaeth arloesol i blant a dull biopsi hylif newydd i drin canser yn gyflymach ymhlith prosiectau sydd wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau gofal iechyd

Innovative children’s service and new liquid biopsy method to treat cancer faster, amongst projects nominated for healthcare awards

Mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn amlygu ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd a chydweithwyr medrus eraill sydd wedi rhoi arferion gofal iechyd arloesol ar waith yng Nghymru. Caiff rhai o'r gwobrau eu noddi gan Lywodraeth Cymru.

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru 'Ffyrdd Newydd o Weithio':

  • Y Gwasanaeth Gastroenteroleg dan arweiniad Uwch-ymarferydd Deietegol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Y Prosiect QuicDNA yng Ngwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS)
  • Alison Jones, Deietegydd Rheoli Meddyginiaethau - Arweinydd Clinigol a Thîm Rheoli Meddyginiaethau Hywel Dda o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Y Gwasanaeth Rhyddhau dan Arweiniad Radiograffydd Mân Anafiadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru 'Gwella Mynediad at Iechyd a Gofal':

  • Gwasanaeth Seicoleg y Ganolfan Blant: Cymorth Ymyrraeth Gynnar i Blant ag Anghenion Ychwanegol a'u teuluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Y Prosiect 'Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn', Adran Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Y Cynllun PIPYN (Pwysau Iach Plant yng Nghymru) Merthyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae gwasanaeth cymorth ymyrraeth gynnar a ddyluniwyd i roi profiadau ac anghenion teuluoedd plant ag anghenion ychwanegol yn ganolog i'w waith hefyd wedi'i enwebu am wella mynediad teuluoedd at gymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi'i lywio gan seicoleg.

Dywedodd Rebekah Sutherland, o wasanaeth Seicoleg y Ganolfan Blant: Tîm Cymorth Ymyrraeth Gynnar i Blant ag Anghenion Ychwanegol a'u teuluoedd, a Seicolegydd Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

"Ry'n ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd  Cymru o dan y categori 'Gwella Mynediad at Iechyd a Gofal.  Ry'n ni'n hynod o falch o'r daith ry'n ni wedi bod arni i ddatblygu gwasanaeth ymyrraeth gynnar i blant ag anghenion ychwanegol sy'n ymateb i'r hyn y mae teuluoedd yn dweud sydd ei angen arnynt o'r dechrau.

Ry'n ni wedi gweithio'n galed i sicrhau bod pob teulu yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chymorth sy'n seiliedig ar seicoleg yn brydlon ac sy'n mynd i'r afael ag anghenion llesiant y teulu cyfan ac yn eu grymuso i greu eu datrysiadau eu hunain."

Mae'r prosiect QuicDNA wedi'i enwebu am ei arloesedd o ran helpu i wneud diagnosis o ganser a'i drin yn gyflymach, a hynny drwy dechneg biopsi hylif newydd sy'n cynnwys prawf gwaed syml. Mae hyn, o ganlyniad, yn gwella mynediad at driniaethau canser gwell sydd wedi'u targedu.

Dywedodd Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan:

"Dw i'n wirioneddol ddiolchgar bod Prosiect QuicDNA yn un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr 'Ffyrdd Newydd o Weithio' yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru eleni. Mae'n anrhydedd mawr imi fod QuicDNA yn cael ei gydnabod fel hyn.

Mae prosiect QuicDNA wir yn brosiect o gydweithio rhwng y Gwasanaeth Iechyd, y trydydd sector, gwasanaethau fferyllol a'r diwydiant. Ry'n ni'n ddiolchgar bod y prosiect ry'n ni mor angerddol amdano hefyd yn un y mae eraill yn gweld gwerth ynddo.

Ry'n ni'n gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd. Ry'n ni hefyd yn falch y bydd y prosiect yn galluogi cleifion canser sydd â chanser yr ysgyfaint i gael triniaethau yn gyflymach yn y dyfodol.'  

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Dw i'n hapus iawn ac yn falch o weld gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd, sy'n helpu i gyflawni Cymru Iachach, yn cael eu dathlu a'u cydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru.

Er gwaetha'r pwysau enfawr maen nhw'n eu hwynebu bob dydd, mae ymrwymiad cydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i feddwl mewn modd arloesol ac i ddarparu'r gofal o'r ansawdd uchaf i bobl Cymru yn eithriadol.

Mae nifer yr arferion newydd ac arloesol sy'n cael eu dangos gan y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn dystiolaeth o gyfraniadau hanfodol y proffesiynau hyn i gadw pobl yn iach."

Dywedodd Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru:

"Dw i'n falch iawn o weld y ceisiadau i'r holl wobrau hyn sy'n dangos arloesedd a gwaith caled gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl Cymru.

Dylai pob ymgeisydd a phob un sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fod yn falch o'r arbenigedd maen nhw wedi'i ddangos."

Dywedodd Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd:

"Nid yn unig y mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn dathlu gwaith hanfodol gwyddonwyr gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a'r rhai sy'n eu cynorthwyo, ond maen nhw hefyd yn gyfle i rannu arloesi, gan roi sylw i ffyrdd newydd o weithio ac arferion gorau.

Mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig iawn cael dysgu rhagor am y gwaith rhagorol sydd ar waith ar lefel unigol ac ar y cyd ledled y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

Bydd enillwyr gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn cael eu cyhoeddi ar 20 Hydref 2023.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru 'Ffyrdd Newydd o Weithio':

  • Kate Harrod-Wild a Jeanette Starkey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - am eu 'Gwasanaeth Gastroenteroleg dan arweiniad Uwch-ymarferydd Deietegol Clinigol', sef gwasanaeth sy'n darparu asesiadau cychwynnol, diagnosteg, a rheolaeth i gleifion i leihau amseroedd aros a rhyddhau apwyntiadau meddygon ymgynghorol.
  • Sian Morgan a'r tîm ledled Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan - am eu “Prosiect QuicDNA ”, sef prosiect chwyldroadol sydd â'r nod o gyflymu'r gwaith clinigol o ran cynnal profion biopsi hylif pan amheuir canser er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar driniaethau wedi'u targedu yn gynt gan felly wella nifer y cleifion sy'n goroesi.
  • Alison Jones a Thîm Rheoli Meddyginiaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - a fabwysiadodd gynllun cerdyn wedi'i rag-dalu i brynu bwydydd heb glwten. Profwyd mai dyma'r ffordd a oedd yn cael ei ffafrio gan bawb. Maen nhw bellach yn cefnogi mwy o gleifion nag erioed ac yn arbed costau wrth wneud hynny.
  • Richard Holford a'r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - am eu Gwasanaeth Rhyddhau dan Arweiniad Radiograffydd Mân Anafiadau. Dyma ddull darbodus, cost-effeithiol ar gyfer hidlo cleifion sydd angen gofal brys yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu o radiograffwyr sy'n adrodd er mwyn gwella'n sylweddol amseroedd aros a chywirdeb diagnostig.

 

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru 'Gwella Mynediad at Iechyd a Gofal':

  • Dr Jeni McElwee a Michael Charles, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am eu prosiect 'Gwasanaeth Seicoleg y Ganolfan Blant: Cymorth Ymyrraeth Gynnar i Blant ag Anghenion Ychwanegol a'u teuluoedd', sef gwasanaeth sydd wedi'i greu i gael ei lywio gan leisiau plant ag oediad yn eu datblygiad a/neu blant anabl a'u teuluoedd. Ers hynny, mae hyn wedi'i ymgorffori yn y tair Canolfan Blant yng Ngwent fel y gall teuluoedd gael gafael ar gymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi'i lywio gan seicoleg.
  • Andrea Basu a Thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu prosiect, 'Dewch i Goginio Gyda'ch Plentyn' sy'n arddel dull o weithio mewn partneriaeth rhwng y tîm deieteg a chymunedau ysgolion. Gyda'i gilydd, mae rhieni a phlant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol i ddysgu a choginio mewn ysgolion cynradd. Nod hyn yw gwella gwybodaeth, sgiliau a hyder o ran bwyta'n iach, rhoi cynnig ar fwydydd newydd, a pharatoi prydau bwyd teuluol gyda'i gilydd.
  • Shelley Powell a'r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu gwaith gyda chynllun PIPYN (Pwysau Iach Plant Yng Nghymru) Merthyr, sef ymyriad sy'n seiliedig ar blant a theuluoedd ac sydd wedi'i ymwreiddio ar sail system gyfan gref i wella ymddygiadau ffyrdd iach o fyw teuluoedd ym Merthyr Tudful.