English icon English

Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn dweud bod swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn y fantol o ganlyniad i’r cyfnod newydd o gyni

New era of austerity threatens jobs, businesses and public services – Welsh Finance Minister

Heddiw, bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn rhybuddio bod Cymru yn wynebu cyfnod newydd o doriadau cyni dinistriol, a hynny oherwydd bod Llywodraeth y DU yn camreoli’r economi.

Mae lefel chwyddiant yn ddychrynllyd o uchel, gan erydu cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hynny, mae’r Canghellor diweddaraf wedi bygwth gwneud toriadau gwariant a allai amddifadu gwasanaethau cyhoeddus o gyllid, rhwystro twf economaidd ac arwain at golli swyddi.

Yn sgil chwyddiant a’r modd y mae Llywodraeth y DU yn camreoli’r economi, mae cyllideb Llywodraeth Cymru bellach werth hyd at £4bn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd y setliad ariannu tair blynedd ei bennu y llynedd.

Mae’r Canghellor wedi dweud bod yn rhaid i bob adran o Lywodraeth y DU gynyddu ei hymdrechion i wneud arbedion. Rhybuddiodd hefyd y bydd rhai meysydd gwariant yn cael eu torri i lenwi'r twll a gafodd ei greu yng nghyllid cyhoeddus y DU o ganlyniad i’r gyllideb fechan fis yn ôl.

Wrth iddi baratoi ei Chyllideb ddrafft ei hun, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr, gallai hyn olygu mwy o doriadau mewn cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i'r Canghellor lunio ei gynllun cyllidol tymor canolig ar 31 Hydref.

Wrth siarad yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid yn rhybuddio yn erbyn cylch arall o fesurau cyni dinistriol a bydd yn cyfeirio hefyd at yr opsiynau eraill y gallai'r Canghellor eu cymryd i hybu twf a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Drwy gyhoeddi toriadau treth byrbwyll, heb eu costio, ar gyfer y cyfoethog, collodd Llywodraeth y DU reolaeth ar yr economi. Nawr, mae'r Canghellor newydd eisiau i ni gyd dalu am fethiannau Llywodraeth y DU gyda thoriadau gwariant sylweddol.

"Rydyn ni’n wynebu cyfnod dinistriol newydd o fesurau cyni – mesurau a fyddai'n bygwth swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus.

"Gallai'r Canghellor ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio ei ysgogiadau treth mewn ffordd decach a chynyddu buddsoddiad er mwyn sicrhau bod yr economi'n symud i'r cyfeiriad cywir. Gallai helpu pobl i dalu eu biliau drwy gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

"Wrth inni edrych ymlaen at ein Cyllideb, mae angen i Lywodraeth y DU gymryd camau i osgoi'r math o gyni dinistriol a fydd yn gwneud mwy o ddifrod eto i’n heconomi a'r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint ohonon ni’n dibynnu arnyn nhw.”