English icon English

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn croesawu canfyddiadau cychwynnol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Education and Welsh Language Minister welcomes initial findings of the Commission for Welsh-Speaking Communities

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canfyddiadau cychwynnol grŵp o arbenigwyr ar ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg.

Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau cyntaf heddiw.

Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn trafod y canfyddiadau gyda Chadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks, ac yn clywed safbwyntiau pobl ifanc heddiw, mewn sesiwn holi ac ateb yn Eisteddfod yr Urdd. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â chymunedau Cymraeg am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r adroddiad yn cynnig dynodi rhannau o Gymru yn ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’ lle gallai fod angen ymyrraeth er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl amrywio polisi cyhoeddus i gydnabod anghenion gwahanol rannau o Gymru.

Dywedodd Jeremy Miles: “Dw i’n croesawu canfyddiadau adroddiad y Comisiwn heddiw. Mae’n hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf ac yn cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu. Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf. Fe welon ni hynny yng nghanlyniadau’r cyfrifiad llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hynny. Mae’r papur yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar y cymunedau Cymraeg eu hunain ynghylch eu hanghenion, a dyna pam dw i wedi dechrau cyfres o ymweliadau, er mwyn clywed pobl yn sôn am eu profiadau.”

Dywedodd Dr Simon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: “Mae’r Comisiwn wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud. Ein canfyddiad cyntaf yw bod angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol, ee ym meysydd tai, cynllunio, datblygu cymunedol yn ogystal ag addysg. Fe ellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy’n effeithio ar y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Comisiwn o’r farn y dylid dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’, ac mae ein Papur Safbwynt yn trafod sut y gellid cyflawni hynny."

Nodiadau i olygyddion

The Minister has welcomed these findings and is starting a series of visits engaging with Welsh-speaking communities about what is important to them.

This paper has been published following a public call for evidence, where almost 200 individuals and organisations shared their views on all kinds of issues affecting Welsh-speaking communities, from housing and education to community development and the economy.

The Commission identifies the following policy areas where the ‘areas of higher density linguistic significance’ could be applied:

  • Community development
  • Education
  • Planning
  • Housing
  • Economic development