Gweinidog yn datgelu cynlluniau newydd a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i arwain y frwydr yn erbyn allforwyr gwastraff anghyfreithlon a throseddau gwastraff
Minister unveils new plans that will help Welsh Government lead the fight against illegal waste exporters and waste crime
Heddiw, mae'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, wedi datgelu cynlluniau i drawsnewid y diwydiant gwastraff yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws mynd i'r afael ag allforion anghyfreithlon ac ar droseddau gwastraff.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gwledydd eraill y DU ar wasanaeth olrhain gwastraff digidol.
Byddai'r gwasanaeth olrhain yn ei gwneud yn orfodol i'r rhai sy'n trin gwastraff gofnodi gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd iddo, o'r pwynt y caiff ei gynhyrchu i'r pwynt y caiff ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei waredu.
Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae Cymru'n arweinydd byd-eang o ran ailgylchu, ac mae cyhoeddiad heddiw yn enghraifft arall o sut rydym yn cymryd camau i symud i economi gylchol"
"Bydd cyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol yn gwella tryloywder yn y sector gwastraff yn fawr a bydd hefyd yn cefnogi ein camau gweithredu i gael y gwerth mwyaf posibl o'r deunyddiau a gasglwn.
"Bydd hyn yn helpu busnesau i gydymffurfio â'u dyletswydd gofal o ran gwastraff ac yn eu helpu i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch sut y caiff eu gwastraff ei reoli.
"Bydd hefyd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau i nodi a datgloi gwerth posibl llawn deunyddiau gwastraff, drwy ddisodli deunyddiau crai â deunydd wedi'i ailgylchu a rhoi hyder mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer atebion arloesol newydd.
"Ein nod yw i'r gwasanaeth hefyd ddarparu gwybodaeth flynyddol am wastraff diwydiannol, masnachol, adeiladu a dymchwel a gynhyrchir yng Nghymru i gymryd lle'r arolygon cyfnodol presennol."