Gweinidog yn diolch i staff gweithgar y NHS ar draws Gogledd Cymru
Minister thanks hardworking NHS staff across North Wales
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi treulio tridiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos hon yn cwrdd â staff a chleifion ar draws Gogledd Cymru.
Yn ystod y cyfnod hwnnw ymwelodd ag amrywiaeth o leoliadau clinigol, gan gynnwys canolfannau dementia newydd, sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarfu â'r tîm y tu ôl i Ganolfan Glanhwfa yn Llangefni - uned bwrpasol sy'n darparu lleoliad cysurus a chyfarwydd i bobl ymlacio gyda'u teuluoedd.
Gwelodd y Gweinidog Iechyd drosof ei hun y gwaith y mae staff byrddau iechyd yn ei wneud i bobl Gogledd Cymru yn Ysbyty Alltwen, Porthmadog, ac Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi, ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Ymwelodd hefyd â'r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan, i ddiolch i'r staff am eu gwaith a gweld drosti ei hun sut maen nhw'n addasu i wella gwasanaethau i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:
“Er bod llawer o waith i’w wneud er mwyn gwella perfformiad, llywodraethiant a gwasanaethau ar draws y bwrdd iechyd, mae'n bwysig cofio bod ein Gwasanaeth Iechyd yn darparu gwasanaeth diogel o ansawdd i ddegau o filoedd o bobl yn y Gogledd bob dydd. Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i weld rhywfaint o'r gwaith hwnnw a chael cyfle i ddiolch i rai o 19,000 o staff gweithgar y bwrdd iechyd."