English icon English

Gweinidog yn lansio ‘Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd’ gyda chyllid newydd i’r sector rhentu preifat chwarae ei ran

Minister launches ‘Ending Homelessness Action Plan’ with new funding for private rented sector to play their part

Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn cael ei egluro yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw wrth i’r Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, lansio’r Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd.

Bydd y Gweinidog, sy’n dweud pan fydd digartrefedd yn digwydd y dylai fod yn ‘brin, yn fyr ac heb ei ailadrodd’, hefyd yn cyhoeddi cronfa gyllido newydd gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd i awdurdodau lleol.

O dan Gynllun Prydlesu’r Sector Rhentu Preifat, anogir perchnogion eiddo preifat i brydlesu eu heiddo i awdurdodau lleol yn gyfnewid am warant o rent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr eu heiddo.

Wedyn gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r eiddo yma i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu'n ddigartref.

Bydd tenantiaid yn elwa o sicrwydd deiliadaeth hirdymor rhwng pump ac 20 mlynedd fel unrhyw gymorth sydd ei angen ar denantiaid i’w helpu i barhau â’u harhosiad mewn cartref hirdymor, fel cymorth iechyd meddwl neu gyngor rheoli dyledion ac arian.

Mae hyn ochr yn ochr â chynllun uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, o ansawdd da a fforddiadwy i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Cynllun Gweithredu Digartrefedd yn adeiladu ar y gwaith digynsail sydd wedi’i wneud gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid yn y trydydd sector, sydd wedi darparu llety a chefnogaeth i fwy na 15,000 o bobl sy'n profi neu'n wynebu’r perygl o ddigartrefedd yn ystod y pandemig.

Mae'r Cynllun wedi cael ei lunio ar sail argymhellion y Grŵp Gweithredu Digartrefedd arbenigol annibynnol, gan adlewyrchu'r newidiadau sy'n ofynnol i atal digartrefedd a symud i ailgartrefu'n gyflym fel bod pobl mewn llety dros dro am yr amser byrraf posibl.

Mae'r cynllun yn nodi'n glir yr angen am atal y problemau sy'n arwain at ddigartrefedd rhag digwydd yn y lle cyntaf fel bod modd rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru o'r diwedd.

Mae achosion digartrefedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fynediad ac argaeledd cartrefi fforddiadwy. Mae rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector, traws-lywodraeth sy'n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cymunedol a'n heconomi ehangach.

Cydnabyddir hyn i gyd yn y Cynllun Gweithredu, ynghyd â'r angen am ddiwygio deddfwriaeth a pholisi yn eang.

Ddoe cyfarfu’r Gweinidog â Jonathan Lewis, 42 oed, o Abertawe. Mae Jonathan wedi goresgyn heriau enfawr drwy gydol ei blentyndod, ei arddegau a’i fywyd fel oedolyn ac, o'r diwedd, mae wedi gallu dod o hyd i gartref diogel a ffynnu ynddo.

Fel oedolyn, roedd Jonathan yn symud o soffa i soffa yn nhai ffrindiau neu'n cysgu yn ei gar am gyfnodau estynedig yn ei fywyd.

Ar ôl derbyn rhwydwaith o gefnogaeth, mae Jonathan bellach yn byw mewn cartref un ystafell wely o ansawdd da a fforddiadwy, ac mae’n gweithio yn llawn amser i'r Wallich, gan helpu pobl ddigartref, fel yr oedd ef unwaith, i symud i dai â chymorth.

Dywed Jonathan: “Yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw’r rhai anoddaf a’r mwyaf buddiol i mi erioed.

“Dydw i ddim wedi cael tŷ erioed, dydw i ddim wedi cael fy eiddo fy hun - mae wedi rhoi’r hwb roeddwn i ei angen i mi - mae wedi rhoi rhywbeth i mi nad ydw i eisiau ei golli. Mae rhywun wedi ymddiried yno i, fy mod i'n ddigon teilwng i gael rhywbeth da mewn bywyd.

“Dydw i ddim yn gallu credu ’mod i wedi dod o ystafell gyda gwely i rywbeth mor brydferth. Roeddwn i'n arfer symud o soffa i soffa neu gysgu yn fy nghar, ond nawr mae gen i gartref fy hun. Ac rydw i'n talu amdano gyda'r arian rydw i'n ei ennill. Mae'n fy ngwneud i’n wirioneddol falch. Rydw i'n ei gadw mor lân!

“Yn fy swydd newydd rydw i’n cefnogi pobl yn y sefyllfa rydw i wedi bod ynddi hefyd, i ddangos iddyn nhw bod bywyd yn gallu bod yn wahanol a dyma sut i’w wella. Rydw i eisiau helpu pobl fel rydw i wedi cael help.”

Dywedodd y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James:

“Mae cwrdd â Jonathan heddiw - sydd wir yn ysbrydoliaeth - yn dangos pwysigrwydd cartref gweddus, fforddiadwy a sefydlog i bawb. Yn ogystal â'r holl waith caled mae Jonathan wedi'i wneud, mae’r gwasanaethau wedi gweithio gyda'i gilydd i roi'r gefnogaeth sydd arno ei hangen. Mae hyn yn golygu bod Jonathan bellach mewn sefyllfa dda i ddarparu'r gefnogaeth hon i eraill sy'n wynebu caledi a digartrefedd posib.

“Rydw i eisiau dweud diolch eto am waith rhyfeddol y rhai sy’n gweithio ym maes digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai ym mhob awdurdod lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r trydydd sector. Bob dydd maen nhw'n gweithio i helpu a chefnogi'r rhai heb gartref. Maen nhw'n trawsnewid bywydau, maen nhw'n cynnig gobaith ac yn ddi-os maen nhw wedi achub llawer o fywydau drwy gydol y pandemig yma. Fe ddylen nhw fod yn falch o bopeth maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud. Fy mlaenoriaeth i nawr yw adeiladu ar ein llwyddiannau ni i atal digartrefedd a sicrhau, pan mae’n digwydd, ei fod yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.”

Dywedodd Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis:

“Roedd yn fraint cwrdd â Jonathan heddiw a chlywed sut mae wedi ffynnu ar ôl cael ei gefnogi i'w gartref ei hun. Dylai pawb gael y cyfle hwnnw, felly rydym yn croesawu'r cynllun beiddgar a hanfodol yma i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

“Mae'r ymateb dan arweiniad Llywodraeth Cymru i'r pandemig nid yn unig wedi cyflawni camau pendant i atal a lleihau digartrefedd yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ond mae hefyd wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer creu effaith gadarnhaol, hirhoedlog y cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae'r cynllun yma’n cydnabod yn briodol bod rhaid i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael heb gefnogaeth barhau, a hefyd y dull unedig o weithio ar draws gwasanaethau i roi terfyn ar ddigartrefedd fel mater iechyd cyhoeddus. Mae'n dangos sut gallwn ni roi'r mesurau ar waith i atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, ac ymateb cyn gynted â phosibl pan fydd pobl yn colli eu cartrefi. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau, gwasanaethau iechyd ac elusennau eraill i'w roi ar waith.”

Dywedodd Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chyd-awdur adroddiad Asesiad Effaith Iechyd newydd, ‘Does unman yn debyg i gartref?’:

“Mae pandemig COVID-19, a mesurau i leihau trosglwyddo’r feirws, wedi cael llawer o effeithiau eang ar boblogaeth Cymru, ac mae wedi arwain at lawer o bobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cartrefi diogel, fforddiadwy o ansawdd da.  

“Mae'r angen am ddiogelwch mewn perthynas â chael, a chadw, cartref a chael eich amgylchynu gan amgylchedd cartref diogel a chyson, ac effaith hynny ar iechyd a lles corfforol a meddyliol, wedi'i gydnabod ers amser maith. Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, fel yn ystod pandemig COVID-19, gall cartref ddarparu sylfaen ddiogel a sefydlog i unigolion a theuluoedd er mwyn eu helpu i fyw a gweithio drwy’r pandemig ac, yn y pen draw, gwella o'i effeithiau.

“Bydd y cynllun gweithredu’n amserol ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, yn enwedig y rhai sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig.”

-Diwedd-

Jonathan Lewis, 42

Cafodd Jonathan ddechrau sigledig mewn bywyd. Yn drist iawn, bu farw ei ‘Nana’ hoff, yr oedd yn byw gyda hi ar ei ben ei hun, pan oedd Jonathan yn ddim ond saith oed. Wedyn profodd drais domestig yng nghartref ei deulu yn ifanc iawn.

Roedd lladrata o siopau a mân droseddu’n rhan o’i fywyd o ddydd i ddydd yn tyfu i fyny. Roedd llys-dad Jonathan hyd yn oed yn arfer mynd ag ef ar dripiau i dorri i mewn i geir yn ystod y nos. Er ei fod yn dweud bod ganddo atgofion melys [yn wyth oed] o fwyta ffa pob ar dost yng ngorsaf yr heddlu gyda’i frawd ar ôl i’w lys-dad gael ei arestio, mae’n pendroni sut roedd y cyfan yn teimlo’n ‘gwbl normal’ iddo ar y pryd.

Rhoddodd Jonathan ei hun mewn gofal yn 12 oed pan oedd ei gartref yn ‘ormod i ymdopi ag ef’. O ganlyniad i’r trawma cynnar hwn, dechreuodd ddefnyddio cyffuriau.

Yn 15 oed, anfonwyd Jonathan i sefydliad troseddwyr ifanc am y tro cyntaf.

Er bod Jonathan wedi setlo am gyfnod byr yn 20 oed i gael plant, heb gefnogaeth i roi sylw i’w drawma cynnar, parhaodd i ddefnyddio cyffuriau i ddileu poen ei orffennol.

Gwnaed ei salwch meddwl o ganlyniad i'w drawma yn y gorffennol yn waeth gan ddigartrefedd, wrth iddo symud o soffa i soffa a chysgu yn ei gar. Roedd mewn cyflwr gwaeth nag erioed yn 30 oed, gan droi at heroin fel hunanfeddyginiaeth, gan arwain at droseddu pellach, y mae Jonathan yn hynod edifar amdano, a chyfnod hirach yn y carchar.

Yn y carchar, gweithiodd Jonathan yn galed, gyda chefnogaeth, i newid ei fywyd. Ymunodd â rhaglen adfer o gyffuriau deuddeg cam ac yn fuan enillodd gymwysterau ar ôl cymryd rhan mewn cwrs coginio a chyrsiau eraill a gynigiwyd iddo.

Wrth adael y carchar, cafodd Jonathan gefnogaeth i gael tŷ â chymorth i bobl a oedd yn delio â thrawma yn y gorffennol a salwch meddwl, a chafodd waith yma ac acw mewn ceginau ac ar safleoedd adeiladu.

Yn 2018, cafodd Jonathan allwedd i'w gartref newydd. Eiddo un ystafell wely ar brydles iddo gan Gymdeithas Tai Caredig.

Diolch i gael cartref sefydlog a chefnogaeth i fynd i’r afael â’r trawma cynnar, mae wedi gallu newid ei fywyd. Nawr mae Jonathan yn gweithio yn llawn amser i The Wallich, lle mae'n helpu pobl sy'n profi digartrefedd, yn union fel ef ar un adeg, i gael cartref parhaol, gyda'r gefnogaeth sydd arnynt ei hangen i gyflawni eu potensial.

Dywed Jonathan: “Yr ychydig flynyddoedd diwethaf ydi’r rhai anoddaf yn fy mywyd i gan fy mod i wedi gorfod addasu’n feddyliol. Does gen i ddim cyffuriau i ddileu'r boen bellach felly mae'n rhaid i mi wynebu'r hyn sydd wedi digwydd i mi a'r effaith rydw i wedi'i chael ar eraill hefyd. Y blynyddoedd yma oedd y rhai anoddaf ond y mwyaf buddiol i mi eu cael erioed hefyd.

“Dydw i ddim wedi cael cartref erioed, dydw i ddim wedi cael fy eiddo fy hun erioed - mae wedi rhoi’r hwb roeddwn ei angen i mi - mae wedi rhoi rhywbeth i mi dydw i ddim eisiau ei golli. Mae rhywun wedi ymddiried yno i, fy mod i'n ddigon teilwng i gael rhywbeth da mewn bywyd.

“Dydw i ddim yn gallu credu ’mod i wedi dod o ystafell gyda gwely i rywbeth mor brydferth. Roeddwn i'n arfer symud o soffa i soffa neu gysgu yn fy nghar, ond nawr mae gen i gartref fy hun. Ac rydw i'n talu amdano gyda'r arian rydw i'n ei ennill. Mae'n fy ngwneud i’n wirioneddol falch. Rydw i'n ei gadw mor lân!

“Yn fy swydd newydd rydw i’n cefnogi pobl yn y sefyllfa rydw i wedi bod ynddi hefyd, i ddangos iddyn nhw bod bywyd yn gallu bod yn wahanol a dyma sut i’w wella. Mae gen i gymaint o ddiolch i’r holl bobl sydd wedi rhoi cyfle i mi, ymddiried yno i ac wedi fy ngalluogi i newid fy mywyd yn llwyr. Nawr rydw i eisiau helpu pobl fel rydw i wedi cael help.”

 

Nodiadau i olygyddion

Mae'r tri datganiad yma’n greiddiol i'r cyngor mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu ar sail argymhellion y Grŵp Gweithredu Digartrefedd:

  • Mae digartrefedd yn brin: mae mwy o fesurau i'w atal a manteisir ar gyfleoedd i helpu pobl yn gynharach o lawer i sicrhau nad ydynt yn colli eu cartref yn y lle cyntaf;
  • Mae digartrefedd yn fyr pan fydd yn digwydd: mewn rhai achosion ni ellir atal digartrefedd ond dylai fod yn brofiad byr iawn, gyda phobl yn cael eu helpu i aros yn eu cartref neu’n cael eu hailgartrefu cyn gynted â phosibl gyda'r holl gefnogaeth sydd arnynt ei hangen;
  • Nid yw digartrefedd yn cael ei ailadrodd: yn ogystal â bod yn fyr, dylai unrhyw brofiad o ddigartrefedd fod yn brofiad untro ac ni ddylid gorfodi pobl i brofi sawl achos o ddigartrefedd yn eu bywydau.

‘Does unman yn debyg i gartref? Edrych ar effaith iechyd a lles COVID-19 ar dai ac ansicrwydd tai - Adroddiad Cryno’ gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://phw.nhs.wales/news/pandemic-highlights-need-for-long-term-strategies-to-ensure-safe-secure-housing-for-all/ yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy'n teimlo'n ddiogel i iechyd corfforol a meddyliol.