English icon English

Gweinidog yn ymweld â safle newydd yng Nghaerffili sy'n cyflenwi cyfrifiaduron i glybiau pêl-droed, arenٟâu E-chwaraeon a'r sector cyhoeddus yng Nghymru

Minister visits new £6m site in Caerphilly which supplies PCs to football clubs, Esports arenas and the Welsh public sector

Bu Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn ymweld â chanolfan gweithrediadau TG Centerprise International ddoe. Mae’r ganolfan newydd yn werth £6 miliwn a bydd yn dod â 70 o swyddi newydd i'r ardal.

Cafodd safle 17 erw y darparwr TG yn Ystrad Mynach, Caerffili ei agor ym mis Hydref ar ôl buddsoddiad o £6 miliwn a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwmni am greu o leiaf 70 o swyddi newydd yn y rhanbarth, gan amrywio o adeiladu cyfrifiaduron personol i wasanaethau cwmwl. Bydd llawer o'r swyddi newydd yn brentisiaethau, a bydd yn cwmni’n cydweithio â cholegau technegol yn y cyffiniau.

Mae'r datblygiad newydd yn fuddsoddiad mawr arall yng Nghymru gan Centerprise ac yn arwydd o'r ffaith bod y cwmni’n dod yn fwyfwy amlwg yn sector cyhoeddus Cymru, ar ôl iddo sicrhau lle ddwywaith ar fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael Cynhyrchion a Gwasanaethau. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru yn gwsmeriaid erbyn hyn ac mae holl liniaduron Llywodraeth Cymru yn cael eu prynu drwy Centerprise International.

Mae'r buddsoddiad newydd hwn yn golygu bod gan y cwmni gryn dipyn yn fwy o gapasiti i adeiladu cyfrifiaduron, a’r safle hwn fydd y ganolfan ar gyfer ei holl weithrediadau technegol. Mae gwasanaethau cwmwl ac E-chwaraeon yn ddau faes arall y mae’r safle newydd yn canolbwyntio arnyn nhw ar ôl y llwyddiant cynyddol y mae’r cwmni wedi’i gael wrth gyflenwi cyfrifiaduron chwarae gemau a fwriedir ar gyfer pen ucha’r farchnad i glybiau pêl-droed ac arenâu E-chwaraeon ledled y DU ac Ewrop.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

"Mae penderfyniad Centerprise International i fuddsoddi yn y safle hwn yn newyddion gwych i Gymru. Bydd y ffaith bod adnoddau peirianegol sgil uchel o fewn cyrraedd i gwsmeriaid yn sector cyhoeddus Cymru yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd yng Nghymru.

"Nod Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yw cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth i bawb yng Nghymru sydd dan 25 oed. Dw i’n  falch iawn o weld y bydd y ganolfan hon yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw drwy'r prentisiaethau gyrfa gynnar a fydd yn cael eu cynnig ar y cyd â cholegau technegol lleol."

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International, Jeremy Nash:

"Y ganolfan weithrediadau newydd hon yw'r platfform a fydd yn caniatáu i Centerprise fynd ati i gyfrannu at sicrhau bod y diwydiant TG yn fwy cynaliadwy. Bydd yn ein galluogi hefyd i wneud hyd yn oed yn fwy o gyfraniad at greu Cymru fwy ffyniannus. Byddwn ni’n defnyddio'r buddsoddiad hwn i sbarduno'r economi gylchol ac i ddarparu cyfleoedd gyrfa yn y maes digidol, ac ym maes data a thechnoleg i’r genhedlaeth bresennol ac i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir arall glodwiw a hynod arwyddocaol yn nhaith Centerprise."