English icon English

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ar ystadegau diweddaraf y farchnad lafur

Economy Minister, Vaughan Gething, on the latest Labour Market Statistics

Wrth sôn am Ystadegau'r Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae ffigurau heddiw'n dangos bod economi Cymru yn parhau i wella o effeithiau dirdynnol coronafeirws gyda'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau'n is na chyfradd y DU, a’n cyfradd cyflogaeth hefyd yn cynyddu.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau adferiad economaidd cryf ac adeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ledled Cymru ac annog diwydiannau'r dyfodol drwy fentrau fel ein cronfa £1.8 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar i annog busnesau i gynhyrchu technolegau cerbydau carbon isel, a'n cefnogaeth i SIMBA Chain, cwmni technoleg o’r Unol Daleithiau sydd wedi arwain at greu swyddi newydd a medrus iawn ym Mlaenau Gwent.

"Nid yw pandemig y Coronafeirws wedi dod i ben eto, a bydd diwedd Cynllun Cadw Swyddi'r Coronafeirws ac ymadawiad y DU â'r UE yn parhau i achosi problemau i fusnesau ac unigolion ledled Cymru.

“Rwyf am iddynt wybod ein bod yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi cwmniau a swyddi yn ystod yr hyn sy’n parhau i fod yn gyfnod hynod heriol.”