English icon English
Panasonic-2

Gweinidog yr Economi yn croesawu buddsoddiad sylweddol yng Nghymru gan Panasonic

Economy Minister welcomes significant investment in Wales by Panasonic

Heddiw, cadarnhaodd cwmni electroneg byd-eang, Panasonic, ei ymrwymiad parhaus i Gymru trwy gyhoeddi buddsoddiad o hyd at £20 miliwn yn ei gyfleuster yng Nghaerdydd.

Mae'r cwmni wedi clustnodi prifddinas Cymru i gyflwyno system bŵer sero net o'r radd flaenaf fel rhan o'i uchelgais i ddefnyddio'r safle fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Technolegau Gwyrdd yn y DU.

Mae system hunangynhaliol Panasonic yn defnyddio generaduron celloedd tanwydd hydrogen, generaduron ffotofoltäig, a batris storio a bydd yn cryfhau Panasonic fel cyflenwr allweddol o ran cynorthwyo cwsmeriaid i gyflawni Sero Net.

Ar hyn o bryd dim ond mewn un arall o gyfleusterau'r cwmni yn Japan y mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio a bydd yn troi Caerdydd, sy'n cyflogi tua 400 o bobl, yn safle peilot arall.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn fod Panasonic yn parhau i fuddsoddi yng Nghymru a'n huchelgeisiau cyffredin ar gyfer twf economaidd cryf.

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Panasonic am gadarnhau eu hymrwymiad parhaus i'r gweithlu yng Nghaerdydd ac i'r economi ehangach yng Nghymru. Maen nhw'n dod â thechnoleg arloesol, o'r radd flaenaf i brifddinas Cymru a hefyd yn cefnogi taith Llywodraeth Cymru i sero net erbyn 2050.

"Mae cyrraedd y targedau hynny'n gofyn am bolisi diwydiannol gweithredol ac ymrwymiad i barhau i weithio gyda'n partneriaid, fel Panasonic, i ddatblygu a chyflawni'r technolegau, y seilwaith a'r prosiectau sy'n creu Cymru gryfach, wyrddach a thecach."

Ers degawdau, mae Cymru wedi buddsoddi mewn partneriaethau cryf gyda busnesau yn Japan ac mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn symbol o bartneriaeth gref gyda busnesau o Japan sy'n mynd y tu hwnt i ddiddordebau busnes. 

Dywedodd Mr Masahiro Shinada, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Panasonic Corporation: "Mae'r ymrwymiad y mae Cymru wedi'i ddangos i dorri allyriadau carbon a diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer defnydd cyntaf Panasonic o RE100 y tu allan i Japan. Rydym yn falch o gydweithio â Chymru tuag at ddyfodol gwyrdd."

Bydd Panasonic yn ymgysylltu â sefydliadau addysg uwch lleol wrth ddatblygu'r prosiect, a disgwylir i'r cam cyntaf fod yn weithredol erbyn 2024.