English icon English
Vaughan Gething  (L)

Gweinidog yr Economi yn croesawu pleidlais y Senedd i gyfnod pontio hirach i ddiogelu swyddi dur

Economy Minister welcomes Senedd vote for longer transition to protect steel jobs

 Mae Gweinidog yr Economi wedi croesawu pleidlais unfrydol gan y Senedd yn dadlau fod dyfodol llewyrchus ar gyfer dur ffwrneisi chwyth yng Nghymru fel rhan o gyfnod pontio teg.

Mae'r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd bellach wedi cefnogi cynnig gan Lywodraeth Cymru yn galw am drafodaethau pellach sy'n caniatáu cyfnod pontio hirach i ddiogelu swyddi ar draws canolfannau Tata yng Nghymru.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r bleidlais heno yn anfon neges gref gan y Senedd gyfan.  Mae dyfodol llewyrchus i ddur ffwrneisi chwyth yng Nghymru, a gellid ac fe ddylid taro bargen well ar gyfer diwydiant y mae pob un ohonom yn dibynnu arno.

"Mae'r diwydiant dur yn rhan o stori ein cenedl ac yn parhau hyd heddiw yn arwydd o ragoriaeth yng Nghymru.

"Mae perygl i’r cytundeb y daethpwyd iddo rhwng Llywodraeth y DU a Tata olygu colled economaidd na welwyd mo’i thebyg yng Nghymru o fewn diwydiant sy'n sail i ddyfodol gweithgynhyrchu a’r swyddi gwyrdd y gallai eu creu.

"Mae aelodau'r Senedd wedi dod ynghyd heddiw i anfon neges glir; mae ffordd arall sy'n caniatáu i weithlu medrus iawn ac ymroddedig gynnig dyfodol gwyrddach i ddur Cymru.

“Byddwn yn parhau i drafod gyda’r busnes, undebau llafur a Gweinidogion y DU i gefnogi y fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf.”