Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi buddsoddiad arall o £1m i arloesi mewn cerbydau gwyrdd
Economy Minister announces further £1m investment in green vehicle innovation
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyd-ariannu trydedd rownd fuddsoddi mewn arloesedd gwyrddach a glanach trwy’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford fel rhan o’i hymateb i’r argyfwng hinsawdd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.
Cafodd y Gronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, ei sefydlu gan y Ford Motor Company yn 2020 i fynd i’r afael â’r heriau technegol diwydiannol strategol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel, gan gynnwys storio ynni trydanol, moduron trydan, electroneg pŵer a’r cydrannau sy’n gyrru olwynion. Mae cydweithio a chreu cadwyni cyflenwi newydd yn rhannau pwysig o waith y Gronfa.
Un o’r prosiectau cyntaf gafodd ei ariannu oedd prosiect o dan arweiniad Deregallera, cwmni ymchwil a datblygu o Gaerffili.
Mae moduron trydan wedi bod yn cael eu defnyddio ers degawdau. O’r gwahanol fathau sydd, y modur magnet parhaol yw’r gorau. Ond mae bron 85% o gyflenwadau’r byd o’r deunyddiau arbenigol sydd eu hangen ar gyfer magnetau parhaol yn dod o Tsieina. Yn ogystal â’r problemau geo-wleidyddol a ddaw o ddibynnu ar un wlad am adnoddau naturiol, mae arferion cyfredol yn golygu bod yr adnodd hwn yn raddol gael ei ddefnyddio i fyny, sy’n creu problemau amgylcheddol gofidus, gan gynnwys pryderon am gynaliadwyedd tymor hir dosbarthu deunyddiau ‘elfennau daear prin’ o gwmpas y byd.
Mae prosiect Deregallera yn golygu dyfeisio modur amgen ar gyfer cerbydau trydan sy’n llai niweidiol i amgylchedd y byd.
Mae Martin Boughtwood o Deregallera yn esbonio:
“Dyma brosiect i greu modur hynod effeithiol â throrym mawr, heb fagnetau parhaol, neu â llawer llai ohonynt. Bydd hynny’n ychwanegu at y moduron a gwrthdroyddion perfformiad uchel rydym yn eu cynnig ac yn darparu cadwyn gyflenwi ddiogel amgen os daw’r cyflenwadau hyn yn rhy gostus neu o dan gyfyngiadau.”
Prosiect arall sydd wedi cael arian trwy’r gronfa yw The Denis Ferranti Group o Fangor. Mae’r cwmni’n defnyddio’r arian i gefnogi HYDENSE, prosiect sy’n gobeithio cipio cyfran arwyddocaol o farchnad y byd am foduron tyniant trydan trwy wneud y gorau o berfformiad y peiriant ar sail cost. Gwneir hynny trwy fanteisio ar alluoedd The Denis Ferranti Group o ran dylunio moduron a’u cyfuno â gwybodaeth helaeth y Canolfan Ymchwil Uwch Gynhyrchu (AMRC Cymru) am y technegau gweithgynhyrchu diweddaraf.
Mae’r rownd gyllido nesaf yn dechrau heddiw a chaiff hyd at £1m ei fuddsoddi mewn prosiectau cyn diwedd 2024.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae hon yn gronfa bwysig fydd yn ein helpu i wireddu’n hymrwymiadau uchelgeisiol i fod yn sero net erbyn 2050. Ym mis Chwefror, lansiais ein Strategaeth Arloesi i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Rwyf am weld economi sy’n arloesi i dyfu, lle mae sefydliadau’n cydweithio ac yn defnyddio technolegau newydd i greu atebion i heriau cymdeithas.
“Mae Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford yn enghraifft o’n cymorth hyblyg i arloesedd. Mae’r gronfa eisoes wedi helpu wyth busnes yng Nghymru ac rwy’n awyddus i gynnig yr un cyfle i ragor.
“Dyma enghraifft wych o lywodraeth yn gweithio gyda diwydiant i greu swyddi gwyrdd newydd yn niwydiannau’r dyfodol.”
I wybod sut i ymgeisio a’r amodau a’r telerau, ewch i Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford nawr ar agor! | Innovation (gov.wales)