Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5m ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Economy Minister announces £4.5m funding for Flexible Skills Programme
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £4.5 miliwn i ddatblygu sylfaen sgiliau busnesau a chreu gweithlu yng Nghymru sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol.
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP), a ddechreuodd yn 2015, yn darparu ymyriadau sgiliau wedi'u targedu ochr yn ochr â rhaglenni sy'n bodoli eisoes, neu lle mae angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect busnes penodol.
Mae'r rhaglen yn gweithredu ar sail buddsoddi ar y cyd sy'n golygu bod yn rhaid i gyflogwyr roi arian cyfatebol i gymorth Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu bod cyfanswm o £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu am dair blynedd arall. Mae'n gweithredu ledled Cymru ac mae'n agored i bob cyflogwr ar draws dwy ffrwd:
- Mae'r ffrwd Datblygu Busnes yn cefnogi prosiectau sylweddol dan arweiniad cyflogwyr sy'n canolbwyntio ar uwchsgilio'r gweithlu. Mae Airbus Brychdyn yn arwain y gwaith o ddatgarboneiddio'r sector awyrofod gyda chymorth y ffrwd hon. Bydd rhaglen Airbus ZEROe yn adeiladu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd erbyn 2035. Mae'r newid hwn i ddylunio a gweithgynhyrchu awyrennau gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddatblygu'r sgiliau gwyrdd newydd y bydd eu hangen ar economi'r dyfodol.
- Nod ffrwd y Prosiect Partneriaeth yw hybu economi sgiliau ehangach Cymru drwy alluogi grŵp o gyflogwyr neu gyrff cynrychioliadol i helpu Cymru i oresgyn her sgiliau neu ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i hybu datblygiad economaidd yn y dyfodol. Roedd pum prosiect partneriaeth a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys datblygu prosiectau ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, peirianneg a gweithgynhyrchu, y diwydiannau creadigol, digidol ac allforio.
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg o fudd i weithwyr drwy eu helpu i ddatblygu sgiliau mwy technegol a throsglwyddadwy o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau tlodi mewn gwaith drwy godi lefelau sgiliau’r gweithlu presennol yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae cefnogi busnesau Cymru i addasu, tyfu eu gweithlu a datblygu sgiliau yn hanfodol i'n huchelgeisiau ar gyfer economi fwy ffyniannus yng Nghymru ar ôl y pandemig.
“Rydym wedi nodi gweledigaeth glir ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl, ac yn ymrwymo i newid bywydau pobl er gwell.
“Mae'r rhaglen yn cefnogi ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau ac yn hybu amrywiaeth yn y gweithlu ymhellach, gan fanteisio i’r eithaf ar ein doniau yng Nghymru, a datblygu economi sy'n gweithio i bawb.
“Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos inni bwysigrwydd bod yn hyblyg ac yn wydn wrth wynebu sefyllfaoedd heriol dros ben. Bydd y rhaglen bwysig hon hefyd yn helpu i ddiogelu ein gweithlu talentog yng Nghymru yn y dyfodol.”