Gweinidog yr Economi yn galw ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gymorth i fusnesau sy'n wynebu costau ynni uchel
Economy Minister calls on UK Government to provide more support for businesses facing high energy costs
Rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i gefnogi busnesau yng Nghymru sy'n wynebu costau ynni cynyddol uwch, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi dweud.
Yn gynharach heddiw, cadeiriodd y Gweinidog gyfarfod gyda chwmnïau cyflenwi ynni a chynrychiolwyr busnesau Cymru – Cydffederasiwn Diwydiant Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambrau Cymru – i drafod yr effaith mae prisiau ynni uchel yn ei chael, yr hyn mae cwmnïau cyflenwi ynni’n ei wneud i helpu, a’r hyn y gellir ei wneud i hwyluso gweithio’n agosach a sicrhau rhagor o gymorth.
Er bod Gweinidogion Cymru yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i estyn hyd ei chymorth ar gyfer defnyddwyr ynni domestig ac annomestig y tu hwnt i fis Mawrth 2023, ac i barhau i gynnwys y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn y cynlluniau annomestig – gan gydnabod y gwasanaethau hanfodol mae'r sectorau hyn yn eu darparu, mae pryderon helaeth y bydd lefel y cymorth a roddir i fusnesau’n annigonol.
Roedd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (EBRS) Llywodraeth y DU yn gweithredu o 1 Hydref 2022 i 31 Mawrth 2023, ac yn capio prisiau cyfanwerthu nwy a thrydan fesul uned ar gyfer cwsmeriaid annomestig. Yn dilyn adolygiad o’r EBRS gan Drysorlys EF, cafodd yr EBRS ei ddisodli gan y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni, a fydd yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth 2024.
Mae’r cymorth a ddarperir drwy'r Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni (EBDS) gryn dipyn yn is na'r hyn a ddarperir o dan y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (EBRS), a chynlluniau tebyg mewn gwledydd eraill.
O dan yr EBDS, byddai gweithgynhyrchwr canolig sy’n defnyddio 1,600 MWh o nwy a 200 MWh o drydan bob mis yn talu £215,000 y mis mewn costau ynni. Mae modelau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos, o dan y cynllun EBRS newydd, byddai’r un gweithgynhyrchwr yn talu teirgwaith cymaint â hynny.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y Gweinidog mai achosion a chanlyniadau costau ynni uchel yw ‘dau o’r problemau mwyaf difrifol rydyn ni’n ymdrin â nhw:
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae'r neges gan fusnesau Cymru yn glir iawn – mae costau ynni uchel yn cael effaith ddinistriol.
"Mae costau ynni uchel wedi bod yn broblem i'r busnesau hyn ers cryn amser. Rydyn ni'n rhannu eu pryderon bod y gostyngiad uchaf wedi cael ei bennu ar lefel na fydd yn ddigonol os bydd prisiau'n codi’n aruthrol, a bydd hyn yn effeithio ar eu cystadleurwydd ymhellach ac, mewn llawer o achosion, eu hyfywedd.
"Rwy'n galw unwaith eto ar i'r Canghellor weithredu yng Nghyllideb y Gwanwyn yr wythnos hon. Rhaid iddo gyflwyno pecyn o fesurau a fydd yn helpu busnesau Cymru i oroesi'r cyfnod hynod anodd hwn, i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog o brisiau ynni uchel yn y DU a chefnogi'r broses o drosglwyddo i Sero Net.”
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau a, chyda Banc Datblygu Cymru, yn ddiweddar mae wedi lansio Cynllun Benthyciadau Gwyrdd gwerth £10 miliwn, sy’n cynnig cyfraddau llog is a dyddiadau ad-dalu hyblyg ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau mewn:
- Technoleg ynni adnewyddadwy, gan gynnwys technoleg ar neu ar bwys safle busnes;
- Gwella adeiladwaith safle ac effeithlonrwydd ynni o fewn adeiladau (gwres, golau, TG ac ati);
- Uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau faint o ynni a ddefnyddir; a
- Gwelliannau i leihau faint o ddŵr a ddefnyddir/faint o wastraff a gynhyrchir