Gweinidog yr Economi yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r £1bn yn ôl i Gymru fel ymdrech i ‘godi’r gwastad’
Economy Minister calls on UK Government to replace Wales’ lost £1bn in “levelling up” drive
Bydd cyllideb Cymru bron i £1 biliwn ar ei cholled erbyn 2024 oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gadw ei haddewid na fyddai Cymru'n colli’r "un geiniog" am i’r DU adael yr UE, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu heddiw.
Wrth siarad cyn cyhoeddi Papur Gwyn “Levelling Up” Llywodraeth y DU, mae'r Gweinidog heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i barchu datganoli a rhoi’r £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru.
Dywedodd y Gweinidog fod y 'drifft a'r anallu i benderfynu’ sydd wedi nodweddu cynlluniau Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU bellach yn costio swyddi a phrosiectau datblygu i Gymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Dros ddwy flynedd ers addewidion mawr Prif Weinidog y DU, mae'n amlwg bellach bod gan Gymru lai o lais a hynny dros lai o arian.
"Mae’r drifft yn Whitehall a’r anallu yno i wneud penderfyniadau yn golygu bod ein cymunedau lleiaf cefnog yn colli swyddi a phrosiectau ar yr adeg gwaethaf posibl. Cadarnhaodd Adolygiad Gwariant y llynedd fod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i ad-dalu’r holl arian Ewropeaidd y byddai Cymru wedi’i gael ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y Papur Gwyn yn newid hyn.
"Pe bai Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewid, byddai Cymru wedi derbyn £375m o arian newydd bob blwyddyn ers mis Ionawr 2021. Yn hytrach, dim ond £46.8m oedd cyfran Cymru o’r cronfeydd ôl-UE yn 2021/22.
"Mae ein dadansoddiad ein hunain yn dangos y bydd cyllideb Cymru £1 biliwn ar ei cholled erbyn 2024.
"Nid "codi’r gwastad” yw hyn, ond “gostwng y gwastad".”
Yn yr Adolygiad o Wariant y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a fyddai’n cymryd lle cyllid yr UE "dros amser" yn werth £1.5 biliwn y flwyddyn i’r DU gyfan.
Ond yn 2022/23, dim ond £400m fydd gwerth yr SPF i’r DU gyfan. Pe bai Cymru a'r DU wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn.
Ac yn 2021/22, dim ond £46.8m ddaeth i Gymru o beilot yr SPF – y Gronfa Adfywio Cymunedol (CRF) – ar gyfer 165 o brosiectau.
Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i ddarparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE yn dangos y bydd Cymru'n colli tua £750m dros dair blynedd (2021-22 i 2023-24) o Gronfeydd Strwythurol.
Ynghyd â'r golled o £242m yn y gyllideb i ffermwyr, ers i Lywodraeth y DU ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddarparu arian yn lle arian yr UE, hyd at ddiwedd cyfnod y cylch gwariant hwn yn 2023-24, bydd Llywodraeth y DU heb neilltuo gwerth bron £1 biliwn y byddai Cymru wedi’i gael fel arall trwy’r UE.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Byddai unrhyw gynllun teilwng wedi cael ei gyhoeddi y llynedd. Byddai blaenoriaethau clir wedi bod ynddo dros greu economïau lleol cryfach i ailfantoli economi’r DU. Yn lle hynny, mae gennym botiau ariannu digyswllt, wedi’u creu ar wahân yn Whitehall.
"Rydym eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu’n blaenoriaethau fel ein hymrwymiad i ddarparu 125,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Senedd hon. Mae ceisio llenwi’r twll a adawyd yn sgil colli arian yr UE a addawyd i Gymru yn ein ffrwyno rhag gallu cefnogi cynigion cadarn a fyddai'n atgyfnerthu cryfderau’n heconomi.
"Mae Deddf anghyfansoddiadol y Farchnad Fewnol yn cael ei defnyddio i sarnu datganoli democrataidd drwy ein rhwystro rhag gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru.
"Mae fy neges i Weinidogion y DU yn glir - parchwch ddatganoli a rhowch yr £1 biliwn a addawyd i Gymru yn ôl i Gymru.
"Nid yw'n rhy hwyr i'r Ysgrifennydd Gwladol, Michael Gove, gynnig ffordd ymlaen sy’n seiliedig ar wneud penderfyniadau ar y cyd. Nid yw'n rhy hwyr am gyfaddawd didwyll."