Gweinidog yr Economi yn llongyfarch consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd ar ei gais llwyddiannus
Economy Minister congratulates Celtic Freeport consortium on winning bid
Roedd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi ym Mhort Talbot heddiw er mwyn llongyfarch y consortiwm Porthladd Rhydd Celtaidd ar ei gais i fod yn borthladd rhydd cyntaf Cymru sydd â’r nod i sicrhau degau o filoedd o swyddi newydd, uchel eu safon yn ne-orllewin Cymru.
Wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd llywodraethau Cymru a’r DU ar y cyd bod y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn ym Môn wedi’u dewis yn borthladdoedd rhydd cyntaf Cymru.
Gyda’i gilydd, nod y ddau borthladd rhydd yw creu oddeutu 20,000 o swyddi yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol a hynny erbyn 2030, yn ogystal â denu hyd at £4.9 biliwn mewn buddsoddiadau cyhoeddus a phreifat.
Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi’i leoli o amgylch porthladd Port Talbot yng Nghastell-nedd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro.
Mae cynlluniau’r porthladdoedd rhydd yn canolbwyntio ar dechnolegau carbon isel, megis ynni gwynt arnofiol ar y môr (FLOW), hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) a biodanwyddau er mwyn cefnogi’r gwaith ar garlam i leihau allyriadau carbon.
Nod y porthladdoedd rhydd yw denu mewnfuddsoddiad sylweddol, gan gynnwys £3.5 biliwn yn y diwydiant hydrogen yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi. Trwy hynny, y nod yw creu £900 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) erbyn 2030, a £13 biliwn erbyn 2050.
Ymwelodd y Gweinidog â phorthladd Port Talbot yn gynharach heddiw a fydd yn datblygu yn un o ganolbwyntiau y Borthladd Rhydd newydd. Disgwylir iddo fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni.
Wrth siarad yn ystod ymweliad i Bort Talbot, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Roedd yn wych cael bod ym Mhort Talbot heddiw er mwyn llongyfarch tîm y Porthladd Rhydd Celtaidd ar ei gais llwyddiannus.
“O gynhyrchu ynni ar y môr i uwch-weithgynhyrchu, bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn gymorth i greu degau o filoedd o swyddi newydd, uchel eu safon yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol. Bydd hefyd yn fodd o gefnogi ein cynlluniau hynod o uchelgeisiol o ran cyrraedd sero net erbyn 2050, gan hefyd gefnogi ein pobl ifanc i gynllunio eu dyfodol yma yng Nghymru.
“Bydd hyn oll o gymorth inni drawsnewid economi de-orllewin Cymru gan ein helpu i greu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i bobl a chymunedau lleol.”
Dywedodd Roger Maggs MBE, Cadeirydd y consortiwm Porthladd Rhydd Celtaidd:
"Mae Cymru ar fin cychwyn ar daith werdd gyffrous.
“Bydd y penderfyniad ar borthladdoedd rhydd yn arwain at gyfres o adweithiau.
“Bydd uwchraddio ein porthladdoedd ynni mwyaf yn Aberdaugleddau a Phort Talbot yn galluogi ynni gwynt arnofiol ar y môr, creu’r sylfaen i feithrin cwmnïau technoleg gwyrdd newydd, yn ogystal â chymryd camau ar y daith o wyrddu diwydiant dur Cymru.
“Nawr yw’r amser i weithredu er mwyn sicrhau bod Cymru yn manteisio ar y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.”
Dywedodd Andrew Harston, Cyfarwyddwr Porthladdoedd Cymru ac Arfordirol, Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain:
“Mae rhoi ynni gwynt arnofiol ar y môr ar waith yn y Môr Celtaidd yn rhoi cyfle heb ei ail i Gymru. Port Talbot yw’r lleoliad perffaith ar gyfer rhoi’r cynlluniau hyn ar waith. Mae Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain yn barod i fuddsoddi dros £500miliwn mewn seilwaith newydd ac uwchraddedig er mwyn galluogi’r gwaith a sicrhau mantais gystadleuol er mwyn manteisio ar y farchnad fyd-eang. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn sicrhau cyfle enfawr, nid yn unig ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr, ond hefyd ar gyfer tanwyddau a hydrogen cynaliadwy.”