Gweinidog yr Economi yn rhybuddio bod buddsoddi yng Nghymru mewn perygl yn sgil oedi cyhoeddi Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU
Investment in Wales at risk due to UK Semiconductor Strategy delay, Economy Minister warns
- Gweinidog yr Economi yn datgan bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gweithredol â sawl cwmni technoleg sydd wedi datgan diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru.
- Heb sicrwydd o gymorth gan Lywodraeth y DU i’r sector, y Gweinidog yn dweud y gallai cwmnïau chwilio am leoedd eraill i fuddsoddi ynddynt.
- Y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gofyn ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi’r Strategaeth Lled-ddargludyddion hirddisgwyliedig heb unrhyw oedi pellach yn ogystal â chadarnhau’r buddsoddiad yng Nghymru.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi rhybuddio bod cwmnïau technoleg sy’n awyddus i fuddsoddi yng Nghymru yn colli’r awydd i wneud hynny yn sgil oedi parhaus gan Lywodraeth y DU i gyhoeddi Strategaeth Lled-ddargludyddion.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae de Cymru wedi datblygu clwstwr o weithgareddau cadarn sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd ac sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Dyma un o brif gryfderau y DU mewn microelectroneg.
Mewn llythyr at Chloe Smith AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros dro dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gweithredol gyda sawl cwmni sydd â diddordeb mewn buddsoddi ymhellach yng Nghymru. Cynhelir y trafodaethau hyn er mwyn datblygu a thyfu presenoldeb yn y clwstwr lled-ddargludyddion yn ogystal ag adeiladu ar y busnesau a’r ecosystem academaidd sydd eisoes yn bodoli.
Fodd bynnag, mae diffyg strategaeth y DU ar gyfer y sector, yn benodol wrth gymharu â chynlluniau sylweddol sydd ar waith yn yr UD a’r UE, yn dod yn fwyfwy o broblem. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn gweld bod cynlluniau buddsoddi yn cael eu hoedi, gan nodi bod diffyg strategaeth y DU yn brif ffactor yn hynny o beth.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Mae angen buddsoddiad hirdymor ar y sector lled-ddargludyddion. Cyn gynted â phosibl, mae cwmnïau, ac yn wir Llywodraeth Cymru angen deall beth yw ymrwymiad y DU i’r diwydiant hwn. Os na, bydd penderfyniadau o ran buddsoddi yn cael eu gwneud mewn mannau eraill.
“Byddwn yn gobeithio y bydd y strategaeth yn cynnwys ymrwymiad sylweddol gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi a fydd yn gymesur i’r ymrwymiadau sy’n cael eu gwneud yn yr UD a’r UE. Gan fuddsoddi yng nghryfderau’r DU, byddwn yn dymuno gweld lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cael eu cydnabod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi ynddynt, yn ogystal â chadarnhad bod clwstwr Cymru yn gyrchfan ar gyfer y buddsoddiad hwnnw.
“Disgwyliaf y bydd y strategaeth yn ymrwymo i ddatblygu ein meysydd ymchwil a datblygu a’n sgiliau ar gyfer y sector ond dylai hefyd ymrwymo i ddatblygu’r seilwaith sy’n galluogi’r diwydiant i ffynnu a datblygu. Mae’n hanfodol bod y strategaeth yn nodi sut y gall y DU gefnogi cwmnïau mewn modd sy’n atal gweithgareddau rhag cael eu symud dramor."
Yn ei lythyr, tynnwyd hefyd sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at sefyllfa Nexperia/Newport Water Fab yng Nghasnewydd. Yn sgil Gorchymyn Diogelu a Buddsoddi, mae dyfodol y cwmni hwnnw, un o’r cyfleusterau saernïo haenellau mwyaf sydd ar ôl yn y DU yn y fantol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae angen i’r Strategaeth Lled-ddargludyddion gynnig digon o hyder i’r diwydiant, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol – sydd oll â rôl gwneud penderfyniadau o ran sicrhau dyfodol y sector – a hynny mewn modd sy’n cael ei gefnogi gan eglurder gan Lywodraeth y DU ar faterion diogelwch perthnasol.
“Mae’r diwydiant yn wynebu anwadalrwydd gwirioneddol ac mae diffyg strategaeth yn gwaethygu’r ansicrwydd penodol y mae’r gweithlu yng Nghasnewydd yn ei wynebu yn ogystal â’n gallu i sicrhau’r swyddi a’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau clwstwr cadarn yn yr hirdymor.
“Nid yw Llywodraeth Cymru, ar unrhyw adeg, wedi ceisio ymyrryd â materion diogelwch yn y meysydd hyn. Drwy gydol y broses hon, rydym wedi bod yn glir bod y penderfyniadau hynny’n faterion priodol i Weinidogion y DU. Fodd bynnag, mae angen gweithredu ar frys er mwyn sicrhau y gall darpar fuddsoddwyr gymryd y safle allweddol hwn, cadw cannoedd o swyddi uchel eu gwerth yn ogystal â diogelu’r gallu y mae’r cwmni yn ei gynnig i’r sector yn y DU.”
Mae’r Gweinidog wedi galw am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y camau arfaethedig nesaf ar gyfer y sector. Nod hyn yw sicrhau bod Gweinidogion o’r ddwy lywodraeth yn gallu datblygu dull o weithio sy’n fwy cydweithredol a strategol ac sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfraniad sector sy’n hanfodol i hybu twf economaidd, lleihau costau a diogelu buddiannau busnesau a chymunedau ledled y DU.