Gweinidog yr Economi yn ymweld ag allforiwr llwyddiannus o Gymru i annog busnesau eraill i ystyried manteision masnachu rhyngwladol
Economy Minister visits successful Welsh exporter to encourage other businesses to consider benefits of international trading
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi ymweld ag allforiwr llwyddiannus o Gymru i weld yn uniongyrchol yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r busnes yn dilyn pandemig y coronafeirws. Mae hefyd wedi annog mwy o gwmnïau o Gymru i fanteisio ar gymorth Llywodraeth Cymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhyngwladol.
Cafodd Industrial Automation and Control Ltd (IAC) yng Ngwent ei sefydlu ym 1989 ac mae'n un o'r prif gyfunwyr o ran systemau rheoli diwydiannol yn y DU. Mae ganddo arbenigedd penodol mewn cynhyrchu systemau gyrru cyflymder amrywiol, gyda'i gynhyrchion yn cael eu defnyddio gan lawer o frandiau trydanol mwyaf blaenllaw'r byd.
Ar hyn o bryd, mae gan IAC, sy'n cyflogi dros 65 o bobl mewn cyfleuster modern yng Nghasnewydd a 30 arall mewn nifer o leoliadau ledled y byd, archebion allforio sydd werth mwy na £3 miliwn yn bresennol. Mae allforio wedi cyfrannu at tua 50 y cant o drosiant y cwmni ers y flwyddyn 2000.
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu IAC i ennill busnes allforio newydd mewn marchnadoedd tramor newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Mae wedi mynychu teithiau masnach Llywodraeth Cymru i Ganada, yr UAE, a De Affrica a chafodd gymorth grant i gynnal ymweliad datblygu busnes annibynnol â Tsieina.
Daw'r ymweliad ar ôl i'r Gweinidog gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i gefnogi busnesau Cymru er mwyn dod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, a helpu i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Allforio Cymru.
Mae IAC hefyd yn gweithredu rhaglen brentisiaethau pedair blynedd lwyddiannus, a gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â nifer o brentisiaid IAC cyfredol yn ystod taith o amgylch y cyfleuster gweithgynhyrchu. Ymunodd prentis cyntaf y busnes dros 25 mlynedd yn ôl ac mae'n dal i weithio i IAC heddiw.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae annog twf allforion o Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu.
“Bydd y rhaglen gynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gymorth allforio a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar yn helpu cwmnïau fel IAC i greu swyddi a phrentisiaethau newydd yma yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.
“Mae allforio yn rhan allweddol o fusnesau'r IAC ac rwy'n falch iawn bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi eu helpu i archwilio marchnadoedd newydd a sicrhau busnes allforio newydd dros y blynyddoedd.
“Rwy’n annog mwy o fusnesau i ddefnyddio'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddechrau allforio'r llu o gynhyrchion a gwasanaethau unigryw a blaengar rydyn ni’n eu cynnig yma yng Nghymru yn rhyngwladol.
“Heb os, bydd y cyfnod hwn yn ein hanes yn un o'r rhai mwyaf heriol i'n busnesau a'n gweithwyr, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd cyfoethog i arallgyfeirio a darparu modelau busnes mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr IAC, Peter Lewis:
“Roedd yn wych cwrdd â gweinidog sy'n teimlo’n angerddol dros yr un pethau ag IAC.
“I ni, mae hyfforddi prentisiaid a masnachu'n rhyngwladol yn gwbl hanfodol i dwf ein busnes ac mae'r gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wrth archwilio marchnadoedd tramor newydd wedi ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau allforio ac mae’n parhau i wneud hynny”.