Gweinidog yr Economi yn ymweld â'r ganolfan gymunedol yn Y Barri i nodi Diwrnod Menter Gymdeithasol
Economy Minister visits Barry-based community hub to mark Social Enterprise Day
Mae Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething wedi ymweld â chanolfan CUBE, cyfleuster cymunedol sy’n cael ei redeg ar y cyd yn y Barri i nodi Diwrnod Mentrau Cymdeithasol.
Mae Diwrnod Menter Gymdeithasol yn gyfle i arddangos menter gymdeithasol ledled y wlad a dangos beth sy'n eu gwneud yn wahanol i fusnesau traddodiadol drwy fynd i'r afael â heriau amrywiol.
Mae CUBE yn cynnal hyfforddiant cefnogi oedolion, grwpiau lles, dosbarthiadau cymunedol i blant a phobl ifanc. Mae'r caffi ar y safle a'r ystafelloedd cyfarfod yn cynnig lleoliadau ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau.
Gweithredir y ganolfan gan y busnes cymdeithasol Heroes Rights CIC. Mae yn fenter gymdeithasol sy'n helpu teuluoedd i ddelio â materion fel trais yn y cartref, cam-drin sylweddau a iechyd meddwl. Mae ei dîm o gwnselwyr hyfforddedig yn darparu cefnogaeth hanfodol i deuluoedd mewn argyfwng.
Mae cefnogi busnesau cymdeithasol ar draws Cymru i ddatblygu a thyfu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid pellach o hyd at £1.7m tuag at wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru o fis Ebrill 2024 i gefnogi'r sector mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi entrepreneuriaid i gychwyn ar lawr gwlad a sefydlu'r genhedlaeth nesaf o fusnesau cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru.
Wrth ymweld â CUBE, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn o ymweld â'r cyfleuster cymunedol gwych a hanfodol hwn yn y Barri fel rhan o Ddiwrnod Menter Gymdeithasol. Mae'r diwrnod hwn yn gyfle i dynnu sylw a dathlu'r effaith gadarnhaol y mae mentrau cymdeithasol fel canolfan CUBE yn y Barri yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad.
"Mae mentrau cymdeithasol yn rhan allweddol o'r economi sylfaenol ac wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae gan fentrau cydweithredol a chymdeithasol botensial enfawr i fod yn fodel busnes o ddewis ledled Cymru, gan gynnig atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
"Hoffwn ddiolch i bob menter gymdeithasol am y cyfraniad hynod werthfawr rydych yn parhau i'w wneud i wella lles cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru."
Wrth groesawu'r Gweinidog Economi i'r Barri, dywedodd Tammi Owen, Prif Weithredwr y CUBE:
"Mae CUBE yn falch o arddangos i Weinidog yr Economi yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'r gymuned dros y 2 flynedd ddiwethaf. Mae ein llwyddiant yn dyst i'r hyn sy'n bosib gyda'r gymuned leol gyda chiCUB. Rydym yn falch o The Gallery, ein busnes menter gymdeithasol, sef ein cartref a'n hincwm yn y dyfodol sy'n darparu cyllid i ni ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth am ddim i'n cymuned".