English icon English
Pupils at Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst

Gweithlu addysgu a wnaed yng Nghymru

A teaching workforce made in Wales

Gyda galw mawr am athrawon uwchradd yn enwedig yn y pynciau allweddol Cymraeg, Gwyddoniaeth a Mathemateg, mae mwy o ffyrdd nag erioed i ddechrau taith i addysgu.

Mae hyn yn cynnwys llwybr cyflogedig, sy'n galluogi athrawon dan hyfforddiant i weithio mewn ysgol a chymhwyso ar yr un pryd.

Gyda chyflog athro yn dechrau ar £32,400 ar hyn o bryd ac yn cyrraedd hyd at £140,600 i bennaeth, mae'n amser gwych i fod yn athro yng Nghymru.

Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ar gael mewn darparwyr ledled Cymru.

Pedair ffordd o ddechrau taith i addysgu:

Llwybr cyflogedig

Mae'r llwybr hwn yn gwrs TAR dwy flynedd, gyda chyflog, sy'n cael ei astudio wrth ymgymryd â dyletswyddau yn yr ysgol. Telir y costau drwy grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru. 

Yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, mae chwech o athrawon wrthi'n gweithio yn yr ysgol ac yn hyfforddi i fod yn athrawon ar yr un pryd.

Yn ogystal â galluogi'r athrawon eu hunain i newid gyrfa, mae'r cynllun yn helpu i ddatrys materion recriwtio.

Fe wnaeth Steffan, un o'r myfyrwyr TAR, symud o Lundain lle'r oedd yn gweithio ym maes recriwtio ariannol, yn ôl i Gymru i fod gyda'i deulu a dechrau ei yrfa addysgu.

Dywedodd: "Ar ôl ymchwilio i'm dewisiadau, roedd y llwybr cyflogedig yn berffaith i mi. Roedd yn caniatáu i mi barhau i ennill cyflog, cael profiad gwerthfawr o weithio mewn ysgol ac yn y pen draw dod yn athro hefyd.

"Rwy'n rhan o gymuned wych yn yr ysgol ac yn y Brifysgol Agored. Er bod yr holl waith ar-lein, rydych yn dal i deimlo fel rhan o gymuned y Brifysgol. Rwy'n cyfathrebu â phobl ar draws Cymru gyfan sy'n gwneud y cwrs hefyd."

Dywedodd Owain Gethin Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy:

"Mae'r cynllun llwybrau cyflogedig wedi ein galluogi i recriwtio'r athrawon gorau ac adeiladu gweithlu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig mewn pynciau allweddol fel Cymraeg a Mathemateg. Mewn ardal wledig, gall recriwtio athrawon fod yn broblem.

"Ond diolch i'r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru, rydym bellach yn hyfforddi tîm o chwech o athrawon dan hyfforddiant, pob un â sgiliau gwahanol ac o gefndiroedd amrywiol, sydd bellach yn cael profiad gwerthfawr o addysgu ac mewn elfennau eraill o waith dydd i ddydd ysgol uwchradd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae cael cymaint o lwybrau i addysgu yn ein galluogi i recriwtio'r gweithlu sydd ei angen arnom nawr ac yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial ac yn parhau i godi safonau.

"Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu athrawon o safon uchel i'r proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd.

"Mae'n galonogol gweld athrawon yn ymuno â'n gweithlu addysg drwy'r llwybr cyflogedig, gan gyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy yrfa mewn addysgu a hefyd cyfrannu at system addysg y mae Cymru'n falch ohoni." 

I'r rhai nad ydynt yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd, mae dal yn bosibl gwneud cais am y llwybr cyflogedig i addysgu un o'r pynciau uwchradd lle mae prinder athrawon.

Mae angen nawdd gan ysgol uwchradd ar gyfer y llwybr hwn, ond mae cymorth ar gael gan y Brifysgol Agored.

TAR llawnamser

Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ar gael ar lefel gynradd ac uwchradd ac mae'n cymryd blwyddyn i'w chwblhau. Mae angen gradd anrhydedd.

Gellir hunan-ariannu neu efallai y bydd modd cael benthyciad myfyriwr a grant cynhaliaeth i helpu gyda’r costau.

TAR rhan-amser

Mae'r TAR rhan-amser ar gael ar lefel gynradd ac uwchradd ac mae'n cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae angen gradd anrhydedd.

Mae'n ffordd ddelfrydol o astudio'r TAR o amgylch swydd neu ymrwymiadau eraill. Gellir hunan-ariannu neu efallai y bydd modd cael benthyciad myfyriwr a grant cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda’r costau.

Cwrs gradd israddedig llawnamser

Mae cwrs tair blynedd ar gael ar lefel gynradd.

Cymhellion

Mae cymhellion o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig i'r rhai nad ydynt ar y llwybr cyflogedig, sef Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth, Cymhelliant ar gyfer Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, a Chymhelliant Iaith Athrawon Yfory.

I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau i addysgu, ewch i: www.addysgwyr.cymru/athro

Nodiadau i olygyddion