English icon English

Gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau yng Nghymru yn chwifio’r faner mewn cynhadledd ‘allweddol’ yn yr Unol Daleithiau

Welsh gaming professionals to fly the flag at “instrumental” US conference

Bydd cymorth gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn gweld rhai o gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd mwyaf blaenllaw Cymru yn mynd i gynulliad blynyddol mwyaf y diwydiant gemau yn San Francisco.

Bydd deg cwmni o Gymru, gan gynnwys Copa, Good Gate Media a Sugar Creative yn cysylltu â 28,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau o bob cwr o’r byd yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau, sy’n dechrau ar 18 Mawrth, i rwydweithio, rhannu syniadau, gwneud cysylltiadau busnes newydd a llunio dyfodol y diwydiant.

Gwerth y diwydiant gemau yn y DU yn 2023 oedd £7.6bn. Mae Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau o Gymru yn y sector i dyfu a masnachu’n rhyngwladol, yn ogystal â chefnogi cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiadau.

Ar ôl y daith fasnach y llynedd i’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau, aeth cwmnïau gemau o Gymru yn eu blaen i sicrhau cytundebau gwerth dros £1.35 miliwn, gyda rhagor o gytundebau yn yr arfaeth.

Mae’n golygu bod y sector gemau wedi dod yn ganolfan i weithwyr proffesiynol medrus yng Nghymru, gan gynnwys datblygwyr gemau, dylunwyr ac artistiaid, sydd i gyd yn cyfrannu at greu gemau blaengar sydd wedi cael eu canmol yn fyd-eang.

Mae hefyd yn gatalydd ar gyfer mewnfuddsoddiadau. Ar ôl gwneud cysylltiadau â Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau 2022, penderfynodd cwmni gemau arbenigol yn yr Unol Daleithiau, Rocket Science, sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd newydd yng Nghymru.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i greu 50 o swyddi medrus â chyflog uchel ar gyfer graddedigion yn y diwydiant gemau yn ei ganolfan yng Nghaerdydd. Ers sefydlu’r stiwdio newydd fis Awst diwethaf, mae wedi lansio ‘Atomic Theory’ yn ddiweddar, gwasanaeth newydd sy'n gwneud datblygiadau i gemau sydd eisoes ar y farchnad ac atebion peirianneg UI / UX ar gyfer datblygwyr a chyhoeddwyr blaenllaw ledled y byd.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Rocket Science, Thomas Daniel:

“Mae’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y diwydiant gemau, gan ddod â’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol o gwmnïau dylanwadol at ei gilydd.

“Mae’n wych bod taith fasnach Llywodraeth Cymru a chymorth ariannol gan Cymru Greadigol wedi galluogi Rocket Science i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Mae bod yng nghanol yr holl weithgarwch yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio, dysgu ac arddangos talent Cymru yn y diwydiant gemau.”

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae bellach dros 3.2 biliwn o chwaraewyr gemau ledled y byd ac mae gan y sector ddyfodol cyffrous yma yng Nghymru. Mae’n rhan annatod o’n heconomi a’n diwylliant, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r gyrfaoedd uchelgeisiol y mae pobl yn eu meithrin yn y sector yma yng Nghymru.   

“Rwyf wrth fy modd bod Cymru Greadigol yn parhau i gefnogi cymuned ffyniannus o fusnesau arloesol, gan fanteisio i’r eithaf ar dalent leol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol. Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn bodoli i helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Mae’r cwmnïau sy’n mynd i San Francisco yn rhan o’r siwrnai honno ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw!” 

Mae Wales Interactive yn gwmni sydd wedi ennill gwobrau sy’n cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol. Dywedodd y sylfaenydd a’r Cyfarwyddwr, Richard Pring:

“Rydym wedi mynychu’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau bob blwyddyn am y deg mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn allweddol wrth feithrin cysylltiadau a chynyddu proffil ein gemau.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Cymru Greadigol am ei chymorth wrth ein helpu i ddod yn gwmni sy’n datblygu ac yn cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol – cwmni sydd wedi ennill gwobrau – drwy’r Gronfa Ddatblygu.

“Mae hyn wedi ein galluogi i sefydlu nid yn unig stiwdio gemau ffyniannus ond hefyd un hynod lwyddiannus, gyda’n prosiectau’n arwain at dair buddugoliaeth BAFTA Cymru a nifer o wobrau eraill yn y sector adloniant a gemau.”

Yn 2023, lansiodd Cymru Greadigol y Gronfa Ddatblygu, sydd ar gael i gefnogi cwmnïau teledu, animeiddio, gemau, a thechnoleg ymgolli yng Nghymru i ddatblygu prosiectau a chysyniadau yn llawn – gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd prosiect yn cael ei gomisiynu, ei gymeradwyo a’i gynhyrchu. 

Ar hyn o bryd, gall cwmnïau gemau yng Nghymru sydd am ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol gael cyllid gan Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol, gyda’r bwriad o gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o’r radd flaenaf.