Gweledigaeth newydd ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru
New vision for Palliative and End of Life Care in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru a fydd yn helpu pobl i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl a marw ag urddas.
Mae’r Datganiad Ansawdd, sydd wedi’i ddatblygu ag ystod o randdeiliaid, yn amlinellu’r ymrwymiadau a’r disgwyliadau ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i blant, pobl ifanc ac oedolion er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ledled Cymru yn ddiogel, amserol, effeithiol, teg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw bod gofal yn cael ei ddarparu i bawb sydd ei angen yn seiliedig ar eu hanghenion a’u dymuniadau unigol gan gynnwys man gofal a marw. Bydd unrhyw un y nodir bod ganddyn nhw anghenion gofal lliniarol yn cael y cyfle i drafod eu hanghenion, eu dymuniadau a’u dewisiadau er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir ar eu cyfer nhw.
I gyflawni’r weledigaeth hon bydd ffocws ehangach ar iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r trydydd sector yn hytrach na gofal lliniarol arbenigol yn unig gan gynnwys mynediad at ofal cofleidiol sy’n cynnig gwasanaethau therapiwtig.
Bydd ffocws o’r newydd ar sicrhau bod pobl yn gallu cynnal ansawdd bywyd mor dda â phosibl ac ar wasanaethau cydgysylltiedig. Bydd un pwynt mynediad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn gweithio gyda phobl i gydlynu eu gofal, gan gynnwys meddyginiaeth, a darparu cyngor er mwyn lleihau trallod a derbyniadau i ofal eilaidd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Bydd cyfran fawr a chynyddol o oedolion yn dioddef salwch sy’n byrhau bywyd am gyfnod o amser pan fo anghenion gofal yn ddwys. Gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd person yn ogystal ag i’r rhai sy’n gofalu amdanynt, gan eu helpu i fyw mor dda â phosibl ac i farw ag urddas.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y dylai unrhyw un sydd angen gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru gael mynediad at y gofal gorau posibl. Bydd y Datganiad Ansawdd hwn yn gwella ansawdd gwasanaethau diwedd oes ac yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau mewn gofal.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid i gyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y Datganiad Ansawdd.”
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi Byrddau Iechyd i ddarparu gwasanaethau diwedd oes gwell drwy Fwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Diwedd Oes.