English icon English

Gwelliannau i helpu pobl wrth godi pryderon am ofal y GIG

Improvements to help people when raising concerns about NHS care

Heddiw, mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi dweud y bydd y broses o wneud cwyn am wasanaethau’r GIG yn dod yn haws ac yn symlach.

Cafodd Gweithio i Wella ei gyflwyno yn 2011 fel un broses i bobl ar gyfer codi pryder neu gŵyn am ofal gan y GIG.

Cafodd y broses ei chynllunio i sicrhau ei bod yn bosibl i newidiadau gael eu gwneud ar unwaith ac i ymchwiliadau gael eu lansio pan fydd pethau’n mynd o’i le. Gwella gwasanaethau a’u gwneud yn fwy diogel, helpu’r GIG i ddysgu a gwella, a sicrhau nad yw digwyddiadau’n codi eto yw’r nod.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion i wella Gweithio i Wella yn gynharach eleni, bydd cyfres o newidiadau yn cael eu gwneud nawr, yn seiliedig ar adborth pobl. Mae’r adborth hwnnw yn cynnwys awgrymiadau gan lawer o bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o godi cwyn oherwydd bod eu gofal nhw eu hunain – neu ofal aelod o’r teulu – wedi mynd o’i le.

Bydd Gweithio i Wella yn cael ei symleiddio i gyflymu’r broses gwyno. Bydd hyn yn cynnwys gwella cyfathrebu tosturiol, cynyddu tryloywder ac ymddiriedaeth, sicrhau bod y broses yn fwy cynhwysol, a diweddaru’r trefniadau ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol am ddim ac adroddiadau gan arbenigwyr meddygol.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'r GIG yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gofal gorau posibl ar gael i bawb, ond rydyn ni’n gwybod bod pethau’n gallu ac yn mynd o’i le weithiau.

“Pan fydd hynny'n digwydd, mae’n bwysig bod pobl yn gallu codi pryderon a bod y GIG yn gallu ymateb iddyn nhw’n gyflym a dysgu o’r adborth y mae’n ei gael. Rhaid i’r broses hon fod yn addas i’r diben.

“Mae’n rhaid rhoi pwyslais newydd ar wrando ar bobl a dysgu gwersi i wella gofal. Drwy sicrhau bod modd gwneud cwynion yn hawdd a’u bod yn cael eu trin mewn modd tosturiol, effeithiol ac amserol y mae cyflawni hyn.

“Nod y newidiadau sydd wedi’u cynnig yn yr ymgynghoriad yw gwneud yr union beth hwnnw. Byddwn ni’n gweithio nawr i ddatblygu a diwygio rheoliadau a chanllawiau Gweithio i Wella, a byddwn ni’n gweithio gyda’r GIG i wneud y newidiadau.

“Mae mewnbwn pobl yn ystod y broses ymgynghori wedi bod yn hollbwysig a hoffwn i ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Rwy’n siŵr bod hon wedi bod yn broses anodd i lawer o bobl. Ond, mae’r profiadau maen nhw wedi’u rhannu wedi bod yn gwbl hanfodol ar gyfer siapio dyfodol Gweithio i Wella.”

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi heddiw.