
Gwelliant mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd
Improvement in reading and numeracy attainment
Mae cyrhaeddiad mewn Rhifedd, Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg wedi gwella yn 2023/24, yn ôl ystadegau newydd.
Fe wnaeth lefelau cyrhaeddiad ar gyfer Darllen Saesneg wella ar draws pob grŵp blwyddyn o gymharu â 2022/23. Dangosodd dysgwyr ym Mlwyddyn 3 welliant parhaus gyda lefelau mewn Darllen Saesneg yn uwch nag yn 2020/2021 a 2021/22. Gwelwyd rhywfaint o welliant mewn Darllen Cymraeg ar draws Blynyddoedd 3 i 9, o gymharu â 2022/23. Blynyddoedd iau sydd wedi dangos y lefel fwyaf o welliant mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), tra bod Rhifedd (Rhesymu) wedi aros yn gymharol sefydlog. Cyhoeddwyd yr ystadegau hyn heddiw gan ddefnyddio data dienw o'r asesiadau personol cenedlaethol.
Asesiadau ar-lein ymaddasol yw asesiadau personol, a gaiff eu gwneud mewn pedwar pwnc, a hynny gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Eu nod yw cefnogi'r dysgu drwy ddarparu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr unigol. Maent yn dangos lle mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, yn ogystal â pha sgiliau y gellid eu datblygu ymhellach.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae'n galonogol gweld cynnydd mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd. Mae'r gwelliant hwn yn tynnu sylw at effaith ein buddsoddiadau mewn ysgolion i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i wireddu ei botensial. Mae'r asesiadau hyn yn helpu i gefnogi ein holl ddysgwyr ar eu taith addysgol drwy gynnig cipolwg gwerthfawr ar eu cryfderau a'r sgiliau sy'n datblygu ganddynt.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'n hathrawon ac i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled a'u hymroddiad i gefnogi ein dysgwyr, ac am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb parhaus wrth ymateb i'n blaenoriaethau cenedlaethol."
Dywedodd Trystan Phillips, Pennaeth Ysgol Gymunedol Penparc yng Ngheredigion: "Mae ein defnydd o asesiadau personol wedi newid, gan symud oddi wrth eu defnyddio fel adnodd crynodol i fod yn adnodd sydd wir yn dylanwadu ar gynnydd. Mae'r defnydd o'r gwahanol adroddiadau grŵp wedi bod yn amhrisiadwy nid yn unig wrth gydnabod cryfderau a meysydd i'w gwella ar gyfer grwpiau blwyddyn ond hefyd i ddangos enghreifftiau ac arferion y gellir eu defnyddio. Maen nhw heb os yn ffordd o gefnogi cynnydd disgyblion bellach."
Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans: "Mae asesiadau personol yn adnodd defnyddiol i ysgolion. Maen nhw'n galluogi athrawon i addasu'r gefnogaeth i ddisgyblion unigol ac olrhain cynnydd dros amser. Rydyn ni'n falch o weld rhywfaint o welliant, ond mae angen i ysgolion weithio gyda'i gilydd i gefnogi cyrhaeddiad, a sicrhau bod ffocws di-baid ar wella darllen a mathemateg i bob dysgwr. Bydd Estyn yn parhau i weithio i gefnogi ysgolion ac yn annog arweinwyr i ddefnyddio adnoddau fel ein hadolygiad thematig diweddar, 'Datgloi potensial: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg mathemateg', i helpu i wella addysgu a dysgu."
Nodiadau i olygyddion
- Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2024 | LLYW.CYMRU
- Asesiadau darllen a rhifedd - Hwb
- The Welsh Reading assessment is taken by learners in Years 2 to 9 whose learning is through the medium of Welsh.
- The English Reading assessment is taken annually by learners in Years 2 to 9 whose learning is through the medium of English. For learners whose learning is through the medium of Welsh, the English Reading personalised assessment is optional in Years 2 and 3 and mandatory in Years 4 to 9.
- The Numeracy assessment is taken in two parts. The Numeracy (Procedural) and the Numeracy (Reasoning) assessments are both taken annually by all learners in Years 2 to 9.