Gwiriwr cymhwysedd ar gyfer pecyn cefnogi busnesau Omicron gwerth £120m yn mynd yn fyw
Eligibility checker for £120m Omicron business support package goes live
Gall busnesau yng Nghymru sy’n cael eu heffeitho gan ymlediad cyflym y feirws Omicron gael gwybod faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn mewn cymorth ariannol brys gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn.
Yn flaenorol, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y byddai £120m ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi sydd wedi’u heffeithio gan y symud i lefel rhybudd 2 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr.
Mae'r pecyn cefnogi yn cynnwys cyllid o'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF), gyda gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y gronfa hon bellach yn fyw ar wefan Busnes Cymru.
Bydd hyn yn helpu busnesau, gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol, i fesur faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn o’r ERF.
Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500k a £25,000, gyda’r grantiau'n dibynnu ar eu maint a nifer y gweithwyr.
Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer yr ERF yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr 2022, gyda thaliadau’n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau. Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor am bythefnos.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Rydym yn cydnabod bod busnesau yn wynebu cyfnod hynod ansicr arall oherwydd amrywiolyn Omicron o’r Coronafeirws. Bydd y gwiriwr cymhwysedd sy'n mynd yn fyw heddiw yn eu helpu i gynllunio ymlaen yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi darparu mwy na £2.6bn o gefnogaeth i fusnesau ledled Cymru i’w helpu i ymdopi o dan amgylchiadau anodd. Bydd y pecyn cefnogi diweddaraf hwn o £120 miliwn yn cynorthwyo busnesau sydd wedi’u heffeithio ymhellach a byddwn yn cael cymorth ariannol iddynt cyn gynted â phosibl.”
Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru nad ydynt yn hanfodol hefyd yn derbyn cefnogaeth gan y grant Ardrethi Annomestig (NDR) cysylltiedig sy’n cael ei weinyddu gan Awdurdodau Lleol. Bydd gan fusnesau hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth trethadwy.
Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gweinyddu cronfa ddewisol ar gyfer unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi a busnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes.
Bydd y broses gofrestru ar gyfer grantiau cysylltiedig yr NDR a'r broses ymgeisio ar gyfer y gronfa ddewisol yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ionawr 2022.
Mae gwiriwr cymhwysedd yr ERF ar gael yn: COVID-19 Crisis Support Tool | Business Wales (gov.wales)