Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd mewn mannau anarferol ac annhebygol" - Gweinidog yr Economi yn lansio strategaeth ddigwyddiadau uchelgeisiol newydd i Gymru
“Making amazing things happen in unusual and unlikely places” - Economy Minister launches new ambitious events strategy for Wales
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio strategaeth newydd i helpu i greu swyddi a lledaenu ffyniant economaidd drwy annog ystod eang o ddigwyddiadau llwyddiannus, cynaliadwy ac unigryw Gymreig ledled Cymru.
Mae Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022-2030 yn adeiladu ar dwf digynsail digwyddiadau yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi cefnogi digwyddiadau o bob math a maint – gan gynnwys digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Cwpan Ryder yn 2010, Womex 2013, uwchgynhadledd NATO yn 2014, Cyfres y Lludw, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017, ac arhosiad gan Ras Cefnfor Volvo yn 2018. Rydym hefyd wedi denu digwyddiadau busnes o'r safon uchaf fel y Farchnad Teithio Golff Ryngwladol ac wedi gweld datblygiad gwyliau unigryw Gymreig fel Focus Wales, Tafwyl a Steelhouse.
Datblygwyd y strategaeth newydd mewn partneriaeth â'r diwydiant digwyddiadau a'i nod yw annog digwyddiadau gwych ledled Cymru sy'n cefnogi lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl, lleoedd a'r blaned. Ei nod yw sicrhau bod y digwyddiadau yn ehangu ar y cyfraniad y maent yn ei wneud i saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Mae'r strategaeth yn ceisio annog digwyddiadau o bob math a maint sydd wedi'u lleoli ym mhob cwr o Gymru, wedi'u gwasgaru ar draws pob tymor ac yn cynrychioli diwylliant Cymru. Mae'n seiliedig ar dair prif thema:
- Cysondeb yn y diwydiant: Er mwyn bod yn wydn ac yn ffyniannus, bydd y diwydiant yn datblygu llais cryf sy'n sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn gweithredu’n gwbl gyson ac yn cydweithio tuag at ganlyniadau cyffredin.
- Dilysrwydd: Bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru 'Gymreictod' penodol waeth beth fo'u maint neu eu lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys yr iaith Gymraeg, yn adlewyrchu Brand Cymru, a meini prawf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Cymru Gyfan: Bydd y diwydiant yn manteisio i'r eithaf ar asedau presennol, yn lledaenu ei ddigwyddiadau ledled Cymru ac yn ystod y flwyddyn, ac yn anelu at sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bydd y strategaeth yn cael ei hadeiladu gan ystyried pobl, lle a'r blaned. Byddwn yn awr yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector ar gynllun gweithredu manwl a fydd yn anelu at greu cyfleoedd gwaith yn y sector a datblygu sylfaen sgiliau o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, drwy rannu gwybodaeth a darparu cyfleoedd hyfforddi.
Mae'r strategaeth yn argymell nodi a hyrwyddo asedau naturiol Cymru, megis arfordiroedd a thirwedd, fel y gellir eu cynnwys yn y gwaith o ddarparu a hyrwyddo digwyddiadau yng Nghymru.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y strategaeth gyda threfnwyr digwyddiadau yn cael eu hannog i ystyried yr adnoddau a'r deunyddiau y maent yn eu defnyddio, ac o ble y maent yn dod.
Heddiw, casglodd rhanddeiliaid o'r sector digwyddiadau yng Ngholeg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru yng Nghaerdydd i drafod y ffordd ymlaen a gweithredu'r strategaeth newydd.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Fy mlaenoriaeth fel Gweinidog yr Economi yw creu economi fwy llewyrchus yng Nghymru. Yr ydym am i Gymru fod yn wlad lle nad oes rhaid i bobl adael i ddod yn eu blaenau. Dyna pam rydym yn benderfynol o greu swyddi da yn y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt.
"Mae Cymru'n adnabyddus am ein croeso cynnes Cymreig a'n lletygarwch rhagorol. Nid yw'r hyn a gyflawnwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf o ran cynnal a darparu digwyddiadau yng Nghymru yn ddim byd llai na rhyfeddol. O fod yn gymharol anhysbys o ran cynnal a chynhyrchu digwyddiadau newydd – rydym bellach wedi cyrraedd cyfnod o aeddfedrwydd gyda phrofiad helaeth a rhestr drawiadol o lwyddiannau fel rhan o'n henw da fel cynhaliwr digwyddiadau.
"Wrth gwrs, torrwyd ar draws y twf hwn gan Covid, ac ni ellir tanbrisio effaith y pandemig. Y sector digwyddiadau oedd un o'r rhai cyntaf i gau, a’r olaf i agor. Cydnabuwyd pwysigrwydd digwyddiadau i'r economi ymwelwyr a lles y genedl gan y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r sector o dan y Gronfa Adfer Diwylliannol a'r ymgysylltu agos, agored a chadarn a gawsom â rhanddeiliaid yn ystod y pandemig.
"Roedd y lefel honno o ymgysylltu a chydweithio hanfodol rhwng y sector a'r Llywodraeth yn un o'r ychydig bethau cadarnhaol a ddaeth o'r pandemig. Bydd ein gwaith nawr yn parhau i ddefnyddio'r partneriaethau a luniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf - mae hon yn strategaeth ar gyfer y sector cyfan – er mwyn i ni gyflawni gyda'n gilydd – a gwneud i bethau rhyfeddol ddigwydd mewn lleoedd anarferol ac annhebygol.
"Rydym nawr yn edrych ymlaen at ddegawd uchelgeisiol arall i'r sector Digwyddiadau yng Nghymru."
Meddai Steve Hughson, Sioe Frenhinol Cymru a Chynrychiolydd Grŵp Cynghori Sector Digwyddiadau Cymru: "Rydym yn croesawu'r strategaeth hon sy'n ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ein sector digwyddiadau bywiog sy'n dod yn ôl yn gryf ar ôl y pandemig. Mae lansio'r strategaeth hon yn amserol yn erbyn y dirwedd heriol honno gyda chostau cynyddol, prinder staff a phroblemau yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi, ac roedd y sector digwyddiadau yn gallu gwneud y pwyntiau pwysig hyn wrth iddo fwydo i mewn i ddatblygiad y strategaeth. Byddwn yn awr yn adeiladu ar y cysylltiadau cryf a ffurfiwyd yn ystod y pandemig i greu cynllun gweithredu y gellir ei gyflawni sy'n gweithio i'r holl randdeiliaid."
Nodiadau i olygyddion