“Gwnewch wisg ysgol yn rhatach” meddai’r Gweinidog Addysg
“Make uniforms cheaper” says Education Minister
Wrth gyhoeddi canllawiau statudol newydd heddiw mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi na ddylai logos ar wisg ysgol fod yn orfodol.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae gwisg ysgol yn rhan bwysig o greu ymdeimlad o hunaniaeth ar gyfer ysgol, ond mae'n gwbl hanfodol bod y wisg yn fforddiadwy. Dyna pam rwy'n gofyn i ysgolion flaenoriaethu gwneud gwisg ysgol yn rhatach i deuluoedd, sy'n parhau i deimlo pwysau’r cynnydd mewn costau."
Daw’r cyhoeddiad hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwisg ysgol, a wnaeth ofyn barn ar fforddiadwyedd er mwyn cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.
Roedd 56% o'r ymatebwyr yn cytuno na ddylai fod angen logos ar wisgoedd ysgol o'i gymharu â 27% a oedd yn anghytuno.
Roedd bron i 90% o'r ymatebwyr hefyd yn teimlo y dylai ysgolion osgoi cytundebau un cyflenwr.
Cafwyd consensws cyffredinol y dylai ysgolion weithredu cynlluniau cyfnewid neu ailddefnyddio gwisg ysgol. Mae'r canllawiau newydd yn galw am roi trefniadau yn eu lle fel bod gwisgoedd ysgol ail law ar gael i rieni a gofalwyr.
Ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Gynradd Gatholig St Michael's ym Mhontypridd yn ddiweddar i weld cynllun ailgylchu/cyfnewid yr ysgol ar waith.
Mae rhieni a gofalwyr yng nghymuned yr ysgol wedi ymateb yn bositif i’r cais i roi gwisg ysgol sy’n rhy fach i'w plentyn/plant i’r ysgol er mwyn eu cynnig i deuluoedd eraill.
Mae menter 'The Uniform Exchange' yn Ysgol St Michael's yn darparu gwisg ysgol fforddiadwy i ddisgyblion, teuluoedd a’r gymuned yn ystod argyfwng economaidd.
Ychwanegodd y Gweinidog: "Rydym yn gwybod bod gwisgoedd ysgol wedi’u brandio yn gallu bod yn llawer drutach i deuluoedd - dyna pam na ddylai ysgolion eu gwneud yn orfodol. Yn sicr, ni ddylai fod gofyniad i nifer o eitemau fod wedi’u brandio.
“Rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud popeth y gallant i gadw costau lawr i deuluoedd. Ond rydym yn dal i weld gormod o achosion lle mae teuluoedd wedi gorfod prynu gwisgoedd drud. Bydd y canllawiau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn cefnogi ysgolion i leihau'r costau hyn.
"Yng Nghymru rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd, gyda llawer o deuluoedd incwm is yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol. Dyma'r cynllun mwyaf hael o'i fath yn y DU, sy’n darparu hyd at £300 i deuluoedd i brynu gwisg ysgol ac offer.
“Rwy’n galw ar gyrff llywodraethu ysgolion i adolygu eu polisïau gwisg ysgol presennol i sicrhau bod fforddiadwyedd yn cael ei flaenoriaethu. Dylai unrhyw newidiadau i bolisi gwisg ysgol gael eu cyfathrebu i deuluoedd cyn diwedd y tymor ysgol presennol."
Cafwyd cyfradd ymateb uchel iawn i’r ymgynghoriad. Gwahoddwyd rhieni, gofalwyr, dysgwyr, cyrff llywodraethu, penaethiaid, athrawon a staff ysgol, cyflenwyr gwisgoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill i rannu eu barn.