Gwobr Dewi Sant yn cael ei dyfarnu i’r Urdd am groesawu pobl sy'n ffoi o'r Wcráin ac Affganistan
Urdd receives St David Award for welcoming people fleeing Ukraine and Afghanistan
Cafodd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog ei dyfarnu i'r sefydliad ieuenctid yn y seremoni heno am bopeth y mae wedi'i gyflawni mewn canrif o wasanaethu pobl ifanc yng Nghymru, am gynnal y Gymraeg yn iaith fyw ac, yn fwyaf diweddar, am fod yn esiampl o Genedl Noddfa drwy gynnig noddfa, cymorth a diogelwch i bobl sy'n ffoi o Affganistan a’r Wcráin.
Mae Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu 9fed flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau a chyfraniadau rhyfeddol pobl o bob cefndir sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru.
Dyma gategorïau’r gwobrau eleni: Dewrder, Busnes, Ysbryd y Gymuned, Gweithiwr Allweddol, Diwylliant, Pencampwr yr Amgylchedd, Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon, Person Ifanc a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae'n wych cael bod yma yn y cnawd unwaith eto i roi gwobrau i’r bobl sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni. Maen nhw’n grŵp o bobl sy'n ysbrydoli eraill ac maen nhw’n haeddu cael eu llongyfarch ar eu cyfraniad i fywyd Cymru.
“Mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu eraill mewn ffordd ddewr ac anhunanol, mae rhai yn torri tir newydd yn eu meysydd, mae eraill wedi gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd, ac rydyn ni’n ffodus eu bod i gyd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
“Dw i’n arbennig o falch o gael canmol Urdd Gobaith Cymru yn gyhoeddus, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, am weithio mor galed i roi croeso cynnes a Chymreig i bobl sy'n ffoi rhag trawma a thrychinebau dyngarol. Mae’r Urdd wir wedi bod yn esiampl o’r dull 'Tîm Cymru’ rydyn ni wedi'i ddatblygu ar y cyd â sefydliadau eraill sy’n bartneriaid inni. Mae’n gwneud llawer mwy na’i waith arferol ac wedi symbylu’n hymdrechion i groesawu unigolion a theuluoedd sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, ac mae'r Urdd wedi bod yn enghraifft ysbrydoledig o’r hyn mae hynny’n ei olygu yn ymarferol.”
Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc Cymru ym maes chwaraeon a diwylliant. Yr hydref diwethaf, agorodd y sefydliad ei ganolfan breswyl yng nghysgod Senedd Cymru i ymhell dros 100 o blant a theuluoedd, a hynny’n rhan o’r cynllun adsefydlu ar gyfer pobl o Affganistan. Mae arferion gorau'r Urdd ar waith unwaith eto wrth iddi ddefnyddio canolfan breswyl i gefnogi hyd at 250 o bobl sy'n cyrraedd o'r Wcráin.
Dyma’r rhestr o enillwyr Gwobrau Dewi Sant:
- Dewrder: Sarsiant Geraint Jenkins a PC Thomas Scourfield, Heddlu De Cymru
- Busnes: Jordan Lea / Deal Me Out
- Ysbryd y Gymuned: Siop Griffiths
- Gweithiwr allweddol: Michelle Jones a Catherine Cooper, Ysgol Gynradd Landsdowne
- Diwylliant: Berwyn Rowlands
- Pencampwr yr amgylchedd: Y Grŵp Amgylchedd Carbon Isel / Prifysgol Caerdydd
- Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
- Chwaraeon: Hannah Mills OBE
- Person Ifanc: Daniel Lewis
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog: Urdd Gobaith Cymru