Gwobrau Dewi Sant yn dathlu degawd o gydnabod arwyr cenedlaethol
St David Awards celebrate a decade of recognising national heroes
Mae'r Prif Weinidog heddiw wedi annog pobl i gyflwyno'u henwebiadau, cyn y dyddiad cau fis nesaf, ar gyfer 10fed seremoni flynyddol Gwobrau Dewi Sant.
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac maen nhw'n cydnabod y gwaith rhyfeddol sydd yn cael ei wneud gan bobl ryfeddol ledled Cymru.
Bydd rhestr fer o'r rhai sy'n cael eu henwebu ar gyfer pob categori yn cael ei dewis gan banel annibynnol, arbenigol, a fydd yn chwilio am bobl sydd wedi cyflawni gweithredoedd anhunanol i gefnogi'r gymuned.
Dyma'r categorïau gwobrwyo:
- Gweithiwr Allweddol
- Pencampwr yr Amgylchedd
- Dewrder
- Ysbryd Cymunedol
- Diwylliant
- Chwaraeon
- Busnes
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Person ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael dathlu arwyr go iawn Cymru bob blwyddyn, am 10 mlynedd yng Ngwobrau Dewi Sant.
"Mae'r enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni ar agor - dyma'r cyfle perffaith i enwebu pobl yr ydych yn credu sy'n haeddu cydnabyddiaeth, boed yn ffrind, cydweithiwr, cymydog neu aelod o'r teulu."
Ymhlith enillwyr y llynedd roedd swyddogion Heddlu'r De a beryglodd eu bywydau wrth geisio achub bywyd dyn 92 oed oedd yn gaeth mewn adeilad oedd ar dan; tîm o beirianwyr a myfyrwyr a ddatblygodd system cymorth anadlu jet wedi'i argraffu yn 3D i helpu yn ystod y pandemig a Daniel Lewis, 16 mlwydd oed, oedd wedi casglu mwy na 25 tunnell o wastraff anghyfreithlon o Gomin Merthyr a Gelligaer fel rhan o'i ymgyrch yn erbyn tipio anghyfreithlon.
Bydd yr enwebiadau'n cau ar 31 Hydref a gellir enwebu drwy wefan Gwobrau Dewi Sant.