English icon English
Snowdrop team-2

Gwobrau’n dathlu bydwragedd ledled Cymru

Midwives celebrated in Chief Nursing Officer’s awards

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig (5ed Mai), ymunodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, â thimau bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddathlu bydwragedd ledled Cymru a chyhoeddi enillwyr diweddaraf ei gwobrau rhagoriaeth newydd.

Ymwelodd Sue â Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth, cyn ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru.

Y rhai a dderbyniodd wobrau rhagoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio oedd -

Donna James o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; y fydwraig ddigidol gyntaf yn y bwrdd iechyd. Ers dod i’r swydd mae Donna wedi trawsnewid gwasanaethau a chynyddu diogelwch i deuluoedd drwy wella cyfathrebu rhyngddynt a’r gwasanaeth. Mae Donna yn rhaglennydd hunanddysgedig, ac mae’r system atgyfeirio beichiogrwydd electronig a adeiladwyd yn ystod pandemig COVID wedi arwain at fynediad cyflymach a mwy cyfleus at ofal mamolaeth. Mae hefyd yn arbed llawer o amser i staff.

Tîm profedigaeth Snowdrop o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n cynnwys Lucy Dobbins, Sarah Griffith a Jan Garrod. Dyma dîm arbenigol o fydwragedd sy’n darparu cymorth amhrisiadwy mewn profedigaeth i rieni a theuluoedd sy’n colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl rhoi genedigaeth yn y Gogledd. Mae’r tîm yn derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau gynaecoleg, mamolaeth a newyddenedigol ac yn cynnig cymorth hanfodol i deuluoedd sydd wedi profi colled ar unrhyw adeg, gan gynnwys marw-enedigaeth, terfynu beichiogrwydd am resymau meddygol a marwolaeth newyddanedig hyd at 28 diwrnod oed. Gall hyn gynnwys cymorth emosiynol, gwybodaeth i rymuso rhieni i lywio’r elfennau ymarferol o ymdopi â cholled, a hyd yn oed cefnogi teuluoedd drwy’r daith anodd o ymchwiliadau gyda’r offeryn adolygu Marwolaethau Amenedigol.

Cyhoeddodd Sue hefyd y wobr bydwreigiaeth ar gyfer Gwella Ansawdd mewn Gwasanaeth ar y cyd â Choleg y Bydwragedd Brenhinol Cymru. Yr enillydd oedd tîm addysg bydwreigiaeth aml-sefydliadol, a oedd yn cynnwys Nicky Court, Helen Etheridge, Elizabeth Rees a Suzie Moore. Dangosodd y fenter gydweithio rhwng Prifysgol Abertawe a dau Fwrdd Iechyd prifysgol. Nod y fenter oedd cefnogi a magu hyder myfyrwyr a chydweithwyr proffesiynol drwy roi sgiliau bydwreigiaeth wrth wraidd eu hymarfer. Datblygwyd addysg ryngddibynnol ar gyfer bydwragedd y dyfodol a chynhaliwyd gweithdy cydweithredol i wella sgiliau bydwragedd wrth gefnogi genedigaeth ffisiolegol. Mae’r fenter hon wedi helpu myfyrwyr a staff i gael profiadau gwell o fewn ymarfer clinigol a’r menywod i gael profiadau geni mwy cadarnhaol.

Yn ymuno â Sue yn y gwobrau cyntaf o’u math oedd Karen Jewell yn ei hymgysylltiad cyntaf o dan ei theitl newydd, sef Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru.

Mae Karen Jewell wedi cael gyrfa hir mewn amrywiaeth o rolau ar draws y GIG gan gynnwys bod yn fydwraig ymgynghorol ac mae wedi arwain y polisi mamolaeth yn Llywodraeth Cymru ers mis Tachwedd 2016.

Yn ogystal ag arwain ar wasanaethau mamolaeth, Karen hefyd yw’r arweinydd proffesiynol ar gyfer ymweliadau iechyd, nyrsio mewn ysgolion a nyrsio plant cymunedol. Mae’n canolbwyntio’n frwd ar y blynyddoedd cynnar a phlant a sicrhau bod polisi a gwasanaethau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo’r dechrau gorau mewn bywyd.

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka: “Mae  rôl y Prif Swyddog Bydwreigiaeth yn cryfhau ein hymrwymiad i’r proffesiwn. Mae bydwragedd yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau teuluoedd ac rwy’n falch o gael Karen yn y rôl hon. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda hi wrth inni edrych i’r dyfodol ar gyfer gofal nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru.”

Daw’r newid teitl hwn ar adeg pan fo’r nifer uchaf erioed o bobl yn hyfforddi yng Nghymru i ddod yn fydwragedd. Ers 2016 mae lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth bron wedi dyblu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi i wella rhaglenni ymhellach a darparu gwasanaethau mamolaeth diogel a theg o ansawdd i deuluoedd yng Nghymru.

Wrth sôn am y newid, dywedodd Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru, Karen Jewell: “Rwyf wrth fy modd bod gan Gymru Brif Swyddog Bydwreigiaeth yn swyddogol ac rwy’n teimlo’n freintiedig i wasanaethu teuluoedd Cymru a’m cydweithwyr o dan y teitl hwnnw. Mae gwasanaethau mamolaeth yn ffocws allweddol o fewn blaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio ac mae gennym lawer o gyfleoedd o’n blaenau i weithredu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol a chyflawni’r gwasanaethau mamolaeth diogel ac effeithiol o ansawdd da yng Nghymru y dylai pob teulu eu disgwyl a’u derbyn.”