Helpwch ni i benderfynu ynghylch dyfodol y dreth gyngor
Help shape the future of council tax in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw [dydd Mawrth 14 Tachwedd] yn gofyn am farn ar ddulliau posibl o ailgynllunio system y dreth gyngor i'w gwneud yn decach.
Mae'r dreth gyngor yn helpu i ariannu'r gwasanaethau hanfodol bob dydd a ddarperir gan gynghorau lleol y mae pob un ohonom ni'n dibynnu arnyn nhw - o ysgolion i lyfrgelloedd lleol, i ofal cymdeithasol a glanhau strydoedd.
Wrth wneud y system yn decach, un o'n nodau allweddol yw sicrhau nad yw'r newidiadau yn cynyddu cyfanswm y dreth gyngor a godir. Rydyn ni'n credu y dylai unrhyw ailgynllunio godi'r un swm o dreth gyngor ledled Cymru ag a godir ar hyn o bryd.
Mae'r system gyfredol ugain mlynedd ar ei hôl hi ac yn annheg. Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi yn y bandiau treth gyngor isaf yn talu swm cymharol uwch o dreth gyngor mewn perthynas â gwerth eu cartrefi o'i gymharu â phobl sy'n byw mewn cartrefi gwerth uwch.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys gwahanol ddulliau posibl sydd wedi'u cynllunio i wneud y dreth yn decach. Mae'r rhain yn cynnwys ychwanegu bandiau newydd ar gyfer y dreth gyngor, newid y cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band ac adolygu disgowntiau a gostyngiadau.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn i bobl pa mor gyflym yr hoffen nhw weld y newidiadau yn cael eu cyflwyno. Y dyddiad cynharaf y gellid cyflwyno unrhyw newidiadau fyddai 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, gellid gohirio newidiadau tan dymor nesaf y Senedd, neu eu cyflwyno fesul cam.
Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn paratoi i ailbrisio pob un o'r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru i sicrhau bod prisiadau yn gyfredol ac yn unol â gwerthoedd eiddo ar hyn o bryd.
O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru, byddai ailbrisiadau yn cael eu cynnal bob pum mlynedd i sicrhau bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth gyngor mewn perthynas â gwerth eu heiddo. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle inni edrych ar y bandiau a'r cyfraddau treth bob pum mlynedd, fel y gallwn ni barhau i wneud y dreth gyngor yn decach.
Er bod prisiau eiddo wedi cynyddu'n gyffredinol, nid yw hyn yn golygu y bydd biliau treth gyngor yn codi'n awtomatig. Byddai biliau llawer o bobl yn aros yr un fath ar ôl y diwygiadau a byddai rhai yn gostwng.
Dyma'r tri dull y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig:
- Diwygio ar raddfa fach – ailbrisio eiddo er mwyn gwirio bod prisiadau yn gyfredol ond cadw'r naw band a'r cyfraddau treth sydd gennym ni ar hyn o bryd. Byddai hyn yn diweddaru'r system ac yn gam bach i gyfeiriad tegwch.
- Diwygio cymedrol – ailbrisio ynghyd â diwygiadau pellach i'r cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band, i ledaenu'r dreth gyngor yn decach. Mae hyn yn golygu y byddai biliau ar gyfer aelwydydd mewn eiddo band is yn gostwng, a byddai biliau ar gyfer y rhai mewn eiddo yn y bandiau uchaf yn codi. Byddai hyn yn mynd i'r afael â natur hen ffasiwn y system gyfredol a hefyd ei natur annheg ac anraddoledig.
- Diwygio estynedig – ailbrisio ynghyd â diwygiadau pellach, gan gynnwys bandiau treth ychwanegol a newidiadau i'r cyfraddau treth. Byddai'r dull hwn yn gweld nifer y bandiau yn cynyddu o naw i ddeuddeg. Byddai un band yn cael ei ychwanegu ar y gwaelod ar gyfer yr eiddo â'r gwerth isaf yng Nghymru, a byddai dau fand arall yn cael eu hychwanegu ar y brig, ar gyfer yr eiddo drutaf sydd werth dros £1.2 miliwn. Y canlyniad fyddai cam pendant i gyfeiriad tegwch.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol heddiw, sy'n rhoi enghreifftiau darluniadol o sut y gallai'r tri dull edrych mewn gwahanol rannau o Gymru ac ar gyfer gwahanol fathau o aelwydydd.
Ar hyn o bryd, mae bron i hanner aelwydydd Cymru yn cael disgownt neu ostyngiad ar eu bil treth gyngor, drwy'r disgowntiau a'r eithriadau niferus, a'n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol. Ni fydd hyn yn newid yn sgil y gwaith hwn.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
"Rydyn ni'n gofyn i bobl ein helpu ni i benderfynu ynghylch dyfodol y dreth gyngor yng Nghymru. Mae gwneud y dreth gyngor yn decach yn un o'r camau y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd tuag at sicrhau bod Cymru yn wlad fwy cyfartal. Bydd y manteision i'w teimlo ym mhocedi llawer o aelwydydd."
"Dyw hyn ddim yn fater o godi mwy o arian drwy drethi a dyw'r newidiadau ddim yn mynd i ddigwydd dros nos. Rydyn ni'n gweld hyn fel proses raddol a dyna pam rydyn ni hefyd yn gofyn am farn ar ba mor gyflym y dylem ni gyflwyno'r newidiadau."
Cynhelir y gwaith hwn ar y cyd â Grŵp Senedd Plaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell:
"Mae cydnabyddiaeth gyffredinol fod y dreth gyngor wedi dyddio a'i bod yn hen bryd ei diwygio. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn pobl ledled Cymru ar sut allai'r dreth gyngor edrych yn y dyfodol a sut allwn ni ei gwneud yn decach. Er bod angen newid, bydd yn cymryd amser sy'n golygu na fydd biliau yn newid ar unwaith. Rydyn ni'n ymgynghori nid yn unig ar y newidiadau sydd eu hangen, ond hefyd ar ba bryd y gallai'r newidiadau hyn ddod i rym."