"Helpwch Ni i'ch Helpu Chi i gael triniaeth mor gyflym â phosib y gaeaf hwn" – Pennaeth GIG Cymru
“Help Us Help You get treatment as fast as possible this winter” – Head of NHS Wales
Wrth i'r gaeaf agosáu a'r galw ar feddygon teulu a gwasanaethau gofal argyfwng gynyddu, mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, yn atgoffa pawb o'r gwahanol wasanaethau sydd ar gael ledled Cymru i gael triniaeth gyflym ac o safon.
Mae'r ymgyrch 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi' gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y gwasanaethau a'r gweithwyr iechyd proffesiynol lleol eraill sydd ar waith yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Maen nhw'n sicrhau bod pobl sydd angen gofal brys yn cael eu trin yn gyflym - heb orfod mynd at eu meddyg teulu neu'r adran achosion brys agosaf.
Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget:
"Os ydych chi'n sâl, wedi cael anaf neu angen gofal brys, mae yna lawer o ffyrdd o gael at y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn lle mynd i adrannau achosion brys. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth ar-lein a ffôn GIG 111 Cymru, llinellau cymorth iechyd meddwl, fferyllwyr, unedau mân anafiadau, a mwy.
Felly nawr mae'n haws cael gofal, cymorth a chyngor ar gyfer cyflyrau newydd neu gyflyrau sydd gennych yn barod, heb hyd yn oed adael eich cartref neu'ch gweithle.
Bydd ein meddygon teulu a'n gwasanaethau gofal argyfwng yn brysurach yn y misoedd oerach sydd i ddod ac ry'n ni eisiau sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
Gall pob un ohonon ni chwarae ein rhan i leihau'r pwysau ar ein gwasanaethau gofal argyfwng, drwy ystyried a oes angen inni fynd i adrannau achosion brys neu at y meddyg teulu, neu a allai'r opsiynau eraill yma gynnig yr opsiwn gorau inni o ran sut i gael triniaeth."
Mae Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys a Gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod bellach ar waith mewn sawl lle yng Nghymru, o ganlyniad i'r rhaglen 'Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng' gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn helpu i osgoi, yn ddiogel, yr angen i fynd i adrannau achosion brys neu'r angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty.
Mae Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn trin pobl ag anghenion gofal sylfaenol brys ar yr un diwrnod. Mae Gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod yn helpu pobl i gael gwasanaeth diagnosteg a thriniaeth ar gyfer anghenion gofal argyfwng, gan eu galluogi i ddychwelyd adref yr un diwrnod.
Nid clinigau galw i mewn yw Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys na Gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod. Maen nhw ar gael drwy feddyg teulu neu atgyfeiriad gan uned argyfyngau. Mae tua 10,000 o bobl yn defnyddio gwasanaethau Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys bob mis.
A chafodd tua 14,500 o bobl ag anghenion gofal argyfwng, a fyddai fel arall wedi gorfod aros dros nos mewn ysbyty, eu trin a’u rhyddhau gan Wasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod yn y 3 mis diwethaf.
Dywedodd Rachel Lee, Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Canolraddol a Chymunedol yng Nghanolfan Gofal Sylfaenol Brys y Barri:
"Mae yna nifer o Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i helpu cleifion i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
"Cafodd Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys eu cyflwyno i'w gwneud yn haws i bobl â chyflyrau brys, sydd ddim yn rhai cymhleth, gael gofal yr un diwrnod. Mae meddygfa yn gallu trefnu apwyntiad i gleifion mewn Canolfan Gofal Sylfaenol Brys, neu mae GIG 111 Cymru neu'r Uned Argyfyngau yn gallu eu hatgyfeirio yno. Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu hasesu a'u rheoli'n briodol o fewn wyth awr.
"Cafodd mwy na 35,000 o apwyntiadau mewn Canolfan Gofal Sylfaenol Brys eu trefnu y llynedd, gan helpu cleifion i gael gofal brys yr un diwrnod yn gyflymach a lleihau nifer y bobl sy'n mynd i adrannau achosion brys prysur."
Mae cyngor ac arweiniad arbenigol hefyd ar gael 24 awr o'r dydd, bob dydd, drwy linell gymorth a gwefan GIG 111 Cymru, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae gwasanaeth GIG 111 yn cynnig 76 o wirwyr symptomau ar-lein a staff medrus ar ben arall y ffôn. Mae'r gwasanaeth yn gallu datrys anghenion gofal unigolyn dros y ffôn neu ei gyfeirio at y lle iawn, i gael triniaeth gyflym ac addas i'w anghenion. Nid apwyntiad gyda meddyg teulu neu driniaeth mewn adran achosion brys fydd hyn bob tro - gallai'r driniaeth fwyaf addas fod ar gael drwy fferyllfa, uned mân anafiadau neu optegydd.
Gwneir tua 70,000 o alwadau y mis i 111, a dim ond 11% o'r rhai sy'n ffonio sy'n cael eu hatgyfeirio at adran achosion brys.
Gall pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl brys gael cymorth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb atgyfeiriad traddodiadol gan feddyg teulu, drwy wasanaeth 'pwyso 2' GIG 111 Cymru. Ers ei lansio y llynedd, nid yw 8 o bob 10 galwr wedi bod angen cyngor na thriniaeth bellach gan wasanaeth gofal argyfwng ac fe nododd 97% o alwyr lefelau is o drallod wedi'r alwad.
Ychwanegodd Judith Paget:
"Mae 'angen gofal brys' yn golygu bod rhywun angen help fwy na thebyg yn yr 8 awr nesaf, ac mae gofal argyfwng yn golygu bod rhywun angen help ar unwaith.
Mae llinell gymorth a gwefan GIG 111 Cymru yn ddewis amgen cyflymach i bobl sydd angen gofal brys a dyna ble ddylai pobl fynd gyntaf - oni bai ei bod yn sefyllfa ddifrifol neu fod bygythiad i fywyd".
Yn ogystal, mae 99% o fferyllfeydd yng Nghymru yn gallu rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau amrywiol a fyddai fel arall yn cael eu trin gan feddyg teulu neu wasanaethau eraill y GIG, drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin cenedlaethol.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 mae'r gwasanaeth hwn wedi lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac wedi arbed tua 200,000 o apwyntiadau meddyg teulu.
Dyma rai o'r cyflyrau y gall fferyllydd roi cyngor a thriniaeth ar eu cyfer:
- llwnc tost/dolur gwddf
- llid yr amrannau (conjunctivitis)
- poen cefn acíwt
- brech cewyn/clwt
- rhwymedd a llawer mwy.
Nodiadau i olygyddion
- Welsh Government’s ‘Six Goals for Emergency and Urgent Care’ programme
- Help Us Help You
- NHS 111 Wales
- NHS 111 Wales, Press 2 - Health A-Z : Mental Health and Wellbeing
- National Common Ailment Service
- Since April all pharmacies in Wales have been enabled to provide the nationalClinical Community Pharmacy Service (CCPS).
- The common ailment service element of the CCPSprovides advice and NHS treatment free of charge for 27 common minor ailments including antibiotic treatment for sore throat where a bacterial infection is confirmed using a swab test. More than 99% of pharmacies in Wales offer the common ailment service.
- Other services available through the CCPS include; access to routine and emergency contraception, seasonal influenza vaccination and supplies of repeat prescriptions in an emergency.
- Urgent Primary Care Centres (UPCCs) assess and treat patients with urgent primary care needs on the same day, without the need for a GP appointment.
- Same Day Emergency Care Services (SDECs) help people access diagnostics and treatment for emergency care needs to return to sleep in their own beds on the same day.