English icon English

Her 50 diwrnod y gaeaf yn dangos arwyddion calonogol

50-day winter challenge shows encouraging signs

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, mae her 50 diwrnod y gaeaf i helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty yn dangos canlyniadau addawol.

Cafodd yr her ei chynllunio i sicrhau bod y GIG a chynghorau lleol yn cydweithio i rannu arferion gorau a dysgu ohonynt er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i helpu pobl i aros yn iach, neu i wella gartref neu yn eu cymunedau lleol.

Gwnaeth byrddau iechyd ac awdurdodau lleol roi cynllun gweithredu 10 pwynt ar waith er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n wynebu oedi wrth gael eu rhyddhau o'r ysbyty a lleihau nifer y diwrnodau y bu'n rhaid i bobl wynebu oedi yn gyffredinol.

Gwnaeth yr her dargedu 25% o'r bobl a oedd yn wynebu'r oedi hiraf wrth gael eu rhyddhau o'r ysbyty gan sicrhau bod cynlluniau priodol ar waith i helpu'r broses o'u ryddhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid gwerth £19 miliwn i gynnal yr her a sicrhau bod y dysgu'n parhau wedi i'r her ddod i ben.

Mae'n helpu i ddarparu mwy o wasanaethau ailalluogi a gwasanaethau gofal cartref, gan helpu mwy o bobl i aros yn iach gartref.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai mis Rhagfyr oedd y pedwerydd mis yn olynol lle gostyngodd nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan sefydlu tuedd ar i lawr ers mis Ebrill 2024, gan felly amlygu effaith gadarnhaol yr her 50 diwrnod. Ers mis Mawrth 2024, mae gwelliant o 14% wedi bod o ran oedi.

Gwnaeth y gwaith, a oedd yn canolbwyntio ar helpu pobl sy'n wynebu'r oedi hiraf wrth eu rhyddhau o'r ysbyty, nodi 395 o bobl. Cafodd dros hanner ohonynt - 225 o bobl - eu rhyddhau erbyn diwedd mis Rhagfyr. O'r 170 o bobl sy'n weddill, mae 80.5% ohonynt wedi cytuno ar gynlluniau rhyddhau i naill ai fynd adref neu symud i gyfleuster gofal.

Mae rhai o'r gostyngiadau mwyaf wedi'u cyflawni o ran yr arosiadau am asesiadau ar y cyd ac wrth ddechrau pecynnau gofal ailalluogi.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden gyfarfod â Rachel Ponting yn Aberpennar. Cafodd Rachel strôc fawr pan oedd hi'n 48 oed a chafodd gymorth yn ei chartref gan dîm ailalluogi Cyngor Rhondda Cynon Taf ar ôl treulio pedwar mis yn yr ysbyty.

Mae ailalluogi yn rhaglen bersonol sy'n helpu pobl i ailennill eu cryfder a'u sgiliau. Mae'n rhan o'r cynllun gweithredu 10 pwynt i helpu mwy o bobl i wella ar ôl bod yn yr ysbyty neu leihau'r angen iddynt fynd i'r ysbyty.

Mae Rachel wedi gweithio'n eithriadol o galed gyda staff sy'n arwain y rhaglen. O ganlyniad, mae ei phecyn gofal wedi'i leihau o bedair galwad y dydd i ddwy alwad y dydd ac mae'n mwynhau mwy o annibyniaeth a symudedd yn ei chartref. Mae'n annhebygol y byddai hyn wedi digwydd heb y gwasanaeth ailalluogi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae'r canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol, ond mae llawer mwy i'w wneud i leihau oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a helpu pobl i aros yn iach gartref.

"Mae angen i fyrddau iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol barhau i gydweithio i roi'r 10 polisi a chamau gweithredu allweddol ar waith, sef y rhai rydyn ni'n gwybod sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, yn y tymor hir.

"Roedd hi'n dda cael cyfarfod â Rachel a siarad am y cymorth a gafodd hi gan y tîm ailalluogi ar ôl cael strôc fawr. Mae ei stori yn dyst i'r effaith gadarnhaol y gall timau ailalluogi ei chael ar fywydau pobl.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae ailalluogi yn gallu helpu i gadw pobl yn iach yn eu cymunedau lleol fel nad oes rhaid iddyn nhw fynd i’r ysbyty. Mae'n agwedd bwysig ar system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy effeithlon a chynaliadwy.

"Mae'n amlwg bod gwaith y tîm ailalluogi yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd Rachel, ac rwy'n diolch iddyn nhw, ac i bawb sy'n gweithio mewn timau tebyg ledled Cymru, am bopeth maen nhw'n parhau i'w wneud."

Dywedodd Rachel Ponting: "Mae'r help dw i wedi'i gael gan y tîm ailalluogi wedi bod yn wych. Maen nhw wedi rhoi hyder imi ac wedi fy helpu i feithrin fy sgiliau eto.

"Dw i wedi dysgu sut i sefyll ar fy mhen fy hun, cerdded a choginio unwaith eto. Dw i'n ddiolchgar iawn am yr holl help dw i wedi'i gael."