English icon English

HPAI: Gweinidog yn ymweld ag ynysoedd Sir Benfro wrth i bryder am achosion o ffliw adar gwyllt dyfu

HPAI: Minister visits Pembrokeshire islands as concern over wild bird flu outbreak grows

Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales heddiw oddi ar arfordir Sir Benfro i asesu graddfa ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) sy'n effeithio ar nythfeydd adar môr gwyllt ledled y DU.

Mae Ynys Dewi ac Ynys Gwales yn gartref i rai o nythfeydd huganod pwysicaf y byd, gyda gwylogod, adar drycin Manaw, llursod a hebogiaid tramor hefyd yn nythu ar eu glannau.

Mae'r ymweliad, a drefnwyd gan RSPB Cymru, yn dilyn adroddiadau o garcasau adar a gafodd eu golchi i fyny ar draethau Sir Benfro, ac amheuir bod HPAI ar yr adar hynny.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd RSPB Cymru fod Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd, Gwylanod a Phalod wedi eu canfod yn farw yn arnofio mewn dyfroedd o amgylch Ynysoedd y Moelrhoniaid a Rhosneigr, Ynys Môn yn y Gogledd.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ac yn cwrdd â rhanddeiliaid yn wythnosol drwy Grŵp Ymateb i Argyfwng Adar y Môr sy'n dod â nifer o asiantaethau ynghyd i gadw golwg ar y sefyllfa sy'n esblygu'n barhaus.

Mae adar y môr yn tueddu i fyw yn agos iawn at ei gilydd mewn nythfeydd trwchus ac mae ganddynt gyfradd ffrwythlonder isel, sy'n golygu eu bod yn tueddu i fagu dim ond un cyw y flwyddyn.

Gall Ffliw Adar ledaenu drwy disian, baw, merddwr ac adar ysglyfaethus neu garthysyddion sy’n achub ar y cyfle i hela carcasau halogedig.

Mae hyn yn caniatáu i Ffliw Adar ledaenu’n gyflym drwy boblogaethau a symud rhwng nythfeydd, gan ei gwneud hi'n anoddach i'r rhywogaeth adfer.

Ym mis Hydref, yn sgil y risg gynyddol i ddofednod, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd roi Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar waith a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid dofednod ledled Cymru gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch llym i atal rhyngweithio a throsglwyddo haint posibl gan adar gwyllt.

Cafodd yr AIPZ ei godi ar 4 Gorffennaf ond mae ceidwaid dofednod yn cael eu hannog i gynnal mesurau bioddiogelwch llym drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae'n dorcalonnus gweld ein hadar gwyllt rhyfeddol yn dioddef salwch mor ofnadwy.

“Hoffwn ddiolch i'r RSPB a'n holl asiantaethau sy'n gweithio'n ddiflino i fonitro'r sefyllfa, a'n hawdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr ac APHA.

“Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd a gwrando ar gyngor hefyd - peidiwch â chodi unrhyw adar sâl neu farw a chadwch gŵn ar dennyn i atal cyswllt.

"Yn hytrach, rhowch wybod i DEFRA ar unwaith ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 03459 335577.”

Dywedodd Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru:

“Mae effaith ffliw adar ar boblogaethau adar y môr wedi bod yn ddinistriol. Mae'n pentyrru'r pwysau ar boblogaethau bregus ac mae'n ychwanegu at frys cynyddol cadwraeth o ran adar y môr. Yn anffodus, nid ffliw adar yw'r unig her sy'n wynebu adar y môr yng Nghymru. Mae effaith newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr hefyd yn gofyn am ymdrechion brys i gynyddu cydnerthedd adar y môr, boed hynny drwy gynllunio morol, bioddiogelwch a rheoli pysgodfeydd.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: “Nid yw ffliw adar wedi diflannu. Yn anffodus, mae'n parhau i gael ei ddarganfod yn y boblogaeth adar gwyllt,  yn enwedig ar Ynys Môn, aber afon Dyfrdwy ac arfordir Sir Benfro. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu farw, peidiwch â chyffwrdd â nhw a rhowch wybod i DEFRA amdanynt drwy’r gwasanaeth ar-lein.

“Os ydych yn geidwad adar, daliwch ati i fod yn wyliadwrus a chadwch y lefelau mwyaf trylwyr o hylendid a bioddiogelwch bob amser i amddiffyn eich haid rhag clefyd.”

a’u casglu, a dylent gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn eu hatal rhag dod i gysylltiad.

Rhowch wybod i DEFRA drwy fynd i: Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu | LLYW.CYMRU

Dylech ddefnyddio’r system ar-lein (ar GOV.UK) neu ffoniwch linell gymorth DEFRA (03459 335577) os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar marw.

Dylid rhoi gwybod i'r RSPCA ar unwaith am adar sâl neu adar sydd wedi’u hanafu ar 0300 1234 999.