English icon English

Hwb ariannol i atal 30,000 o dyllau ar brif ffyrdd

Funding boost to prevent 30,000 potholes on major roads

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £25m ychwanegol i adnewyddu prif ffyrdd Cymru ac atal tua 30,000 o ddiffygion a thyllau ar y ffyrdd.

Bydd yr hwb ariannol yn golygu y bydd 100km ychwanegol o'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn cael wyneb newydd yn ystod y flwyddyn ariannol newydd. Bydd ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael eu hadnewyddu, gyda miloedd o dyllau yn cael eu llenwi.

Ers 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £81m ar waith gosod wyneb newydd ar oddeutu 321km o ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru. Ar y cyd â'r gwariant a ragwelir ar gyfer 2025-26, mae hyn yn golygu y bydd £118m wedi'i wario erbyn diwedd tymor y Senedd hon i drwsio dros 500km o ddiffygion a thyllau ar y ffyrdd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae'n hanfodol ein bod yn trwsio ein ffyrdd.

“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi £25m o gyllid pellach i helpu i gefnogi rhaglen adnewyddu gynhwysfawr i wella gwydnwch ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn y dyfodol ac atal tyllau rhag digwydd.

“Rydym eisoes yn gweithio'n galed i lenwi tyllau ar y ffyrdd ac adnewyddu rhannau allweddol o'n rhwydwaith ffyrdd cyn gynted â phosibl, ond bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i gyflymu'r gwaith hwn.”

Mae Mr Skates hefyd wedi addo cyhoeddi manylion cymorth ariannol newydd i gynghorau er mwyn trwsio rhagor o ffyrdd lleol. Mae disgwyl i fanylion am raddfa'r cymorth gael eu datgelu yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd yn helpu i drwsio tyllau ledled Cymru.

Ychwanegodd:

“Ar y rheilffyrdd rydyn ni'n darparu gwerth £800m o drenau newydd ac ar fysiau rydyn ni'n mynd i ddeddfu i gymryd rheolaeth dros lwybrau ac amserlenni. Ar ffyrdd a phalmentydd, rydyn ni'n dangos ymrwymiad gwirioneddol i drwsio tyllau wrth i ni geisio adnewyddu a gwella cysylltiadau rhwng cymunedau.”