English icon English
illness 2 (002)-2

Hwb ariannol i gynnig gwasanaethau COVID hir i bobl â chyflyrau hirdymor.

Funding boost to open long COVID services up to people with other long term conditions.

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi heddiw y bydd pobl â chyflyrau hirdymor eraill yn cael mynediad at wasanaethau COVID hir Cymru.

Bydd cyllid blynyddol y Gwasanaethau Adferiad yn codi i £8.3 miliwn. Bydd y gwasanaethau adfer yn y gymuned yn parhau i gefnogi pobl gyda COVID hir ond byddant hefyd ar gael i bobl â chyflyrau hirdymor eraill y mae eu hadferiad yn debyg. Gall hyn gynnwys pobl ag enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig (ME/CFS), ffibromyalgia a chyflyrau eraill yn dilyn feirws.

Bydd y cyllid hefyd yn parhau i gefnogi’r ap adfer hunan-reoli COVID a’r canllawiau Cymru gyfan ar gyfer rheoli COVID hir.

Mae Gwasanaethau Adferiad yn rhoi diagnosis, triniaeth, cymorth adsefydlu, a gofal i bobl sy’n profi effeithiau hirdymor yn sgil COVID-19. Maent wedi’u cynllunio i ymateb i anghenion penodol pob unigolyn gan ddarparu gofal mor agos at y cartref â phosibl. Caiff pobl eu cynorthwyo gan dimau amlbroffesiynol gan gynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a nyrsys. Os bydd angen gofal mwy arbenigol, gellir atgyfeirio pobl i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.

Ers lansio’r rhaglen Adferiad yn 2021, mae mwy na £10 miliwn wedi’i fuddsoddi i gefnogi datblygu’r gwasanaethau adfer a’r gwasanaethau adsefydlu amlbroffesiynol integredig yn y gymuned ym mhob ardal bwrdd iechyd. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd y gweithlu. 

Mae adolygiad chwe misol diweddaraf y rhaglen yn rhoi sicrwydd pellach bod gwasanaethau Adferiad yn parhau i ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. Rhoddodd y rhan fwyaf o bobl wybod fod ansawdd eu bywyd wedi gwella, a’u bod wedi cael profiad cadarnhaol o ran y gwasanaethau a gawsant.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19 wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac mae hynny’n parhau. Mae gennym ased cymunedol gwerthfawr o ganlyniad i ddatblygu’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i ni barhau i’w feithrin ac i fanteisio arno.  

“Gwyddom fod llawer o bobl â chyflyrau hirdymor eraill wedi teimlo yn ‘anweledig’ a theimlo nad oedd pobl yn eu deall. Drwy ehangu mynediad at wasanaethau adferiad gallwn roi gwell cymorth i bobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia i gael diagnosis, rheoli eu symptomau a chael mynediad at wasanaethau adferiad sy’n hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol. 

“Rwyf wedi ymrwymo i ehangu capasiti ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae’r buddsoddiad rheolaidd hwn, sy’n ategu cyllid arall i ehangu’r capasiti gofal sylfaenol a chymunedol a ddarperir i’r GIG, i awdurdodau lleol ac i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cefnogi ein huchelgais i wella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol a datblygu gwasanaethau gofal cymunedol ymhellach.”

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Rydym wrth ein boddau o fod wedi cael y cyllid rheolaidd hwn. Bydd yn ein galluogi i recriwtio i nifer o swyddi, diogelu swyddi, a sefydlu gwasanaethau holistaidd ar gyfer ystod eang o bobl sydd â chyflyrau heriol, gan gynnwys ME a CFS, yn ogystal â COVID hir.

Mae llawer o bobl gyda’r cyflyrau hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion iechyd wedi’u bodloni dros y blynyddoedd, a bydd hyn yn ein galluogi i’w cysuro y bydd gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi, a fydd yn gallu eu cynorthwyo i reoli eu cyflyrau unigol.”

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

Notes

Adferiad (Recovery) services seek to stand by people with long COVID. The Welsh Government committed to reviewing the programme on a 6 monthly basis.

As we have learned more about long COVID, it is apparent that some of the most common symptoms associated with this condition are the same or similar to other conditions, for example myalgic encephalomyelitis/chronic fatigue syndrome (ME/CFS), fibromyalgia, and other post viral conditions.

Adferiad services will continue to be accessible via their GP or primary care professionals or in some areas, via self-referral.