Hwb ariannol o £9 miliwn i gynlluniau band eang
Broadband schemes receive £9 million funding boost
Bydd cynlluniau band eang ledled Cymru yn derbyn gwerth dros £9 miliwn o gyllid i'w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gymunedau sydd ei angen, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.
Mae'r gronfa, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cysylltedd yn eu cymunedau, eisoes wedi helpu nifer o brosiectau ledled Cymru, ac mae pedwar prosiect arall bellach yn derbyn cyllid.
Bydd yr arian yn darparu gwell mynediad band eang i gymunedau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg a Gogledd Cymru.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn cyllid ar gyfer cynllun i wella cysylltedd ffibr llawn gigabit a darparu technoleg gynorthwyol mewn adeiladau, a gwasanaethau teleofal i dri chartref Gofal Preswyl i Oedolion yn Ninas Casnewydd. Bydd y prosiect yn helpu i wella ansawdd bywyd a amlygir yn amcanion cyhoeddedig y Gronfa Band Eang Lleol.
Bydd rôl technoleg gynorthwyol yn helpu’r staff a'r preswylwyr, gan ddarparu llawer o fanteision o ran rhedeg cartref gofal. Bydd y gallu i fonitro’n gyson breswylwyr â chyflyrau iechyd yn cynorthwyo aelodau'r staff yn fawr ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd gwell i'r preswylwyr.
Bydd technoleg hefyd yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd trwy apiau fel Skype a Zoom. Mae galwadau fideo wedi bod yn amhrisiadwy yn y cyfnod diweddaraf oherwydd y pandemig, lle nad oedd ymweliadau wyneb yn wyneb yn gallu digwydd yn ein cartrefi gofal.
Bydd rhan sylweddol o'r buddsoddiad yn mynd i Gyngor Caerdydd i ddarparu band eang i 1,219 o gartrefi ledled Caerdydd nad oes modd iddynt fanteisio ar gyflymder band eang o 30Mbps ar hyn o bryd
Fel rhan o'r broses o gyflwyno'r cynllun yng Nghaerdydd, rhoddwyd blaenoriaeth i eiddo a ystyriwyd yn uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC). Wrth benderfynu pwy oedd yn gymwys, cafodd pob safle ei fapio yn erbyn ei sgôr amddifadedd cyffredinol a hefyd yn erbyn nifer o fynegeion ar wahân, gan gynnwys Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Mynediad at Wasanaethau, Gwasanaethau Cymunedol, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
"Mae band eang cyflym a dibynadwy yn bwysicach nag erioed. Er nad yw'r maes hwn wedi'i ddatganoli i Gymru, rydym yn gweithredu drwy ein Cronfa Band Eang Leol ac amrywiol gynlluniau eraill i ddod â gwell cysylltedd i rai o'r rhannau anoddaf eu cyrraedd o Gymru. Mae cysylltedd digidol o ansawdd da yn sail i bopeth a wnawn yn ddigidol a dyma'r sylfaen ar gyfer cyflawni ein strategaeth Ddigidol uchelgeisiol i Gymru.
"Mae'r gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru a heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd rhagor o gynlluniau’n elwa ar y cyllid hwn.
"Mae band eang yn gyfleustod allweddol a byddwn yn parhau i gefnogi pob ymdrech i hybu cysylltiadau ar hyd a lled Cymru."
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:
"Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £7.7m i'n helpu i ddarparu band eang cyflym iawn i'r cartrefi hyn yn y ddinas. Teimlwn ei bod yn hanfodol bod pawb ar draws y ddinas, yn enwedig pobl mewn eiddo ynysig ac ardaloedd difreintiedig, yn cael y cyfleoedd digidol y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol."
Mae'r rhestr lawn o gynlluniau wedi'i chynnwys isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais i'r cynllun, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen hon: Y Gronfa Band Eang Lleol | LLYW.CYMRU