Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau
£2.9m boost for Wales’ Brilliant Basics - the little things which make a big difference to a holiday experience
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru.
Bydd y gronfa, sy'n helpu awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gyflawni'r gwelliannau a fydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr, yn cefnogi prosiectau i helpu i leddfu'r pwysau mewn ardaloedd sy'n gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
Bydd y gronfa hefyd yn helpu prosiectau i wella hygyrchedd i safleoedd a phrosiectau sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Bydd cyllid yn galluogi cwblhau Cynllun Beicio Porthcawl, a fydd yn cysylltu'r llwybr beicio o Rest Bay, â Glan yr Harbwr, a Chanol y Dref i Fae Trecco.
Gwelir gwella mynediad ar draethau dethol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a fydd yn darparu llwybr cerdded ar draws y tywod, strwythur newid cludadwy gydag offer codi a chadeiriau olwyn ar gyfer traethau. Bydd y prosiect hefyd yn gweld mynediad i'r llwybr pren yn Poppit Sands a chreu llwyfan gwylio newydd, gyda chynllun peilot llogi e-feiciau yn cael ei gynnal yn Nhyddewi.
Bydd amwynderau'n cael eu huwchraddio ar gyfer ymwelwyr a'r cymunedau lleol ym Mharc Gwledig Gwepra a Chwm Maes Glas, dau o fannau gwyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir y Fflint. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys gwell toiledau, gan gynnwys toiledau Changing Places ac offer chwarae hygyrch.
Yn ystod yr ymweliad ag Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru, bu Gweinidog yr Economi yn ymweld â Down to Earth a lwyddodd i gael cyllid Y Pethau Pwysig y llynedd. Aeth y Gweinidog ar ymweliad â safle Murton y Fenter Gymdeithasol arobryn – sydd â 100% o drydan adnewyddadwy, gwres a dŵr poeth a chyda'r Pethau Pwysig dyma bwynt gwefru Cerbydau Trydan 50KW cyntaf Gŵyr erbyn hyn.
Meddai Mark McKenna, cyd-sylfaenydd/cyfarwyddwr Down to Earth, "Mae'n hanfodol gwella'r seilwaith cerbydau trydan ar Benrhyn Gŵyr ac Abertawe er mwyn annog twristiaeth werdd a gwella ansawdd aer. Gyda'r holl drydan ar gyfer y pwyntiau gwefru cyflym a chyflym yn dod o ynni adnewyddadwy Gŵyr, sy'n eiddo i'r gymuned, mae hefyd yn dangos sut y gallwn wella gwydnwch ynni yn lleol drwy ynni adnewyddadwy 100%!"
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad pwysig amwynderau twristiaeth lleol ar brofiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar drip diwrnod neu ar wyliau. Yn aml, nid ydym yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru, tra hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.
"Bydd y £2.9m o gyllid newydd rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn mynd i brosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau'n fwy hygyrch ac yn fwy cynaliadwy, ac i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru."
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid i ddatblygu eu prosiect Aros-fan a fydd yn uwchraddio asedau megis meysydd parcio cyhoeddus mewn 6 cyrchfan ar draws Gwynedd i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau a fydd yn creu darpariaeth gyfreithlon ar gyfer parcio ‘dros nos’ a chysgu drwy gydol y flwyddyn pwrpasol ar gyfer cartrefi modur yn y sir.
Croesawodd Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd y cyllid a dywedodd:
“Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud ymchwil sylweddol i gartrefi modur y sir ac wedi gwrando ar farn cymunedau, perchnogion cartrefi modur a gweithredwyr meysydd gwersylla er mwyn deall arosiadau dros nos anghyfreithlon neu amhriodol o fewn y sir.
“Trwy’r prosiect a ariannwyd gan Pethau Pwysig byddwn yn treialu rhwydwaith o hyd at 6 safle ‘Aros-fan’ ar draws Gwynedd a fydd yn darparu darpariaeth briodol dros nos ar gyfer cartrefi modur a faniau gwersylla sydd gyda’u cyfleusterau eu hunain ar y cerbyd.”
Dywedodd Sioned Williams, Pennaeth Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Er mwyn cefnogi’r economi leol, bydd pob un o’r 6 safle wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol, bydd ganddynt wasanaethau sylfaenol a byddant yn gweithredu uchafswm arhosiad llym o 48 awr.
“Er na fydd y cyfleusterau hyn yn weithredol yr haf hwn, rydym yn gobeithio y bydd yr holl seilwaith perthnasol yn ei le erbyn Gwanwyn 2023. Os bydd y peilot yn llwyddiannus - efallai y bydd y Cyngor yn ystyried datblygu cyfleusterau Aros-fan pellach yn y sir yn y dyfodol” .
Nodiadau i olygyddion
Mae'r Rhestr o brosiectau fel a ganlyn;
Enw’r Sefydliad |
Enw a disgrifiad o’r Prosiect |
Grant |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Mynediad i bawb yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys Lleoedd Newid a Thoiledau i'r anabl, mannau parcio a sgwter symudedd pob tirwedd i'w logi |
117,565.00 |
Cyngor Sir Powys |
Prosiect Gwella Profiad Ymwelwyr Powys.
Mae'r Prosiect yn canolbwyntio ar dri lleoliad ymwelwyr allweddol ym Mhowys; Aberhonddu, Llandrindod a Llyn Efyrnwy. Bydd pob lleoliad yn gwneud gwelliannau sy'n galluogi ymwelwyr i gyfeirio eu hunain yn fwy effeithiol wrth gyrraedd yr ardaloedd, ac yn haws dod o hyd i asedau ymwelwyr allweddol a chael mynediad atynt. |
210,400.00 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Meinciau Pier Bae Colwyn. Darperir seddi ar y pier a adnewyddwyd yn ddiweddar i wella'r profiad i ymwelwyr a darparu seddau y mae mawr eu hangen ar gyfer y rhai sydd â phroblemau hygyrchedd |
32,000.00 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Gwella mapiau, arwyddion a gwybodaeth i ymwelwyr yng Nghonwy a Llandudno |
21,200.00 |
Cyngor Gwynedd |
Aros-fan Bydd y prosiect 'Aros-fan' yn uwchraddio asedau fel meysydd parcio cyhoeddus mewn 6 chyrchfan ar draws Gwynedd i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau a fydd yn creu darpariaeth ddilys ar gyfer parcio 'dros nos' a chysgu drwy gydol y flwyddyn at ddibenion cartrefi modur yng Ngwynedd. |
240,000.00 |
Cyngor Gwynedd |
Parc Gwledig Padarn, Llanberis. Bydd y prosiect yn gwneud gwelliannau i'r maes parcio yn ardal Glyn ac yn cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, llochesi beicio, man golchi offer awyr agored a gwaith tir. |
250,000.00 |
Cyngor Sir Ddinbych |
Gwella Parc Glan yr Afon (Llangollen) Gwneir gwelliannau i'r gyrchfan boblogaidd hon ac maent yn cynnwys golff mini, offer chwarae, Seilwaith gwyrdd gan gynnwys pwyntiau gwefru E-feiciau, seilwaith chwarae dŵr, seddi bandstand, byrddau dehongli a mynediad ramp rhwng lefelau'r parc. |
200,000.00 |
Cyngor Sir y Fflint |
Parciau i Bawb. Bydd y prosiect Parciau i Bawb yn uwchraddio ac yn gwella amwynderau i ymwelwyr a'r cymunedau lleol ym Mharc Gwledig Gwepra a Chwm Maes Glas, dau o fannau gwyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir y Fflint. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys gwell darpariaeth toiledau, gan gynnwys toiledau Changing Places ac offer chwarae hygyrch. |
196,000.00 |
Cyngor Sir Ynys Môn |
Pyrth Arfordirol Môn Bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect Pyrth Arfordirol Môn sy'n cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwefrwyr beiciau trydan, storio beiciau a gwelliannau i waith seilwaith gan gynnwys cyfleusterau Dehongli ac ailgylchu digidol. |
248,000.00 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri |
Gwelliant i Morfa Mawddach, Gwynedd Bydd y prosiect yn gweld gwelliannau y mae mawr eu hangen i'r safle poblogaidd hwn ac mae'n cynnwys gwelliannau i'r maes parcio, adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, mannau gwefru cerbydau trydan a beiciau. |
72,000.00 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
Llwybr Arfordir Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr Bydd cyllid yn galluogi cwblhau Cynllun Beicio Porthcawl a fydd yn cysylltu'r llwybr beicio o Rest Bay, i Harbourside, a Chanol y Dref i Fae Trecco. Bydd biniau ailgylchu clyfar hefyd wedi'u lleoli ar hyd y llwybr. |
52,000.00 |
Cyngor Sir Fynwy |
Croeso Tyndyrn Bydd Croeso Tyndyrn yn gwella profiad ymwelwyr mewn mannau cyrraedd allweddol yn Nhyndyrn gan gynnwys yr Abaty, meysydd parcio, arosfannau bysiau canol y pentref ac wrth y man cyrraedd newydd lle mae Ffordd Werdd Dyffryn Gwy (llwybr cerdded a beicio) yn dod i mewn i'r pentref. |
250,000.00 |
Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Datblygiad maes parcio dwyrain Porth Tywyn. Bydd gwelliannau'n cynnwys parth parcio hygyrch gyda mannau parcio i'r anabl, pwyntiau cerbydau trydan ychwanegol, cyfleusterau gwefru e-feiciau, 6 pharth parcio cartrefi modur yn ystod y dydd, biniau clyfar, arwyddion newydd a system ddraenio gynaliadwy. |
248,000.00 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Gwefru Cerbydau Trydan a Chyfleusterau Cyhoeddus Parc Gwledig Margam Mae'r prosiect yn cynnwys seilwaith gwefru cerbydau trydan ac adnewyddu cyfleusterau cyhoeddus ar iard y Castell. |
250,000.00 |
Cyngor Sir Penfro |
Gwella Cyfleusterau Cyhoeddus i wella cynwysoldeb ar Draeth Whitesands. Ailgynllunio cyfleusterau cyhoeddus presennol ar Draeth Whitesands i gynnwys Toiled Lleoedd Newid ac Ystafell Deulu. Bydd gorsaf ail-lenwi dŵr hefyd yn cael ei gosod ynghyd â gwelliannau i ymddangosiad mewnol ac allanol y cyfleuster i wella profiad ymwelwyr.
|
158,900.00 |
Cyngor Sir Penfro |
Gwella Mynediad i Draeth Dinbych-y-pysgod Gwelliannau mynediad i risiau, canllawiau a llwybrau cerdded mynediad ar draethau'r Gogledd, y Castell a'r De yn Ninbych-y-pysgod. |
42,000.00 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro |
Gwnewch y pethau bychain. Bydd gwell mynediad i'w weld ar draethau dethol yn Sir Benfro ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a fydd yn darparu llwybr cerdded ar draws y tywod, strwythur newid cludadwy gydag offer codi a chadeiriau olwyn ar gyfer traethau. Bydd y prosiect hefyd yn gweld mynediad i'r llwybr pren yn Poppit Sands a chreu platfform gwylio newydd. Yn ogystal, bydd cynllun peilot llogi e-feiciau yn cael ei gynnal yn Nhyddewi.. |
160,688.00 |
Cyngor Abertawe |
Lleoedd Newid yn Rhosili a’r Mwmbwls. Gosod cyfleusterau toiledau Lleoedd Newid wedi'u creu ymlaen llaw yn Rhosili a'r Mwmbwls. |
148,576.00 |
2,897,329.00 |