Hwb o £8m i ddysgu digidol ym maes addysg bellach
£8m boost for digital learning in Further Education
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £8m i gefnogi dysgu digidol mewn colegau addysg bellach dros y tair blynedd nesaf – gyda chyfanswm o dros £30m wedi’i fuddsoddi mewn digidol ers 2019.
Mae'r gronfa yn galw ar golegau addysg bellach i fod yn arloesol a sicrhau bod dysgu digidol yn ganolog i'w cynlluniau. Bydd yr arian yn helpu colegau i barhau i fuddsoddi mewn offer digidol a gwelliannau seilwaith.
Bydd y cyllid newydd yn helpu i sicrhau bod y sector addysg bellach yng Nghymru ar flaen y gad o ran arloesi, creadigrwydd a chydweithio ac yn rhoi'r dechnoleg a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i symud ymlaen i waith ystyrlon a boddhaus.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae'r cyllid hwn yn gyfle cyffrous i harneisio potensial technoleg i wella profiadau dysgu ac ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu i fyfyrwyr yng Nghymru.
“Bydd hyn yn eu paratoi ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth, gan gynnwys mewn diwydiannau uwch-dechnoleg lle mae offer ac arferion yn esblygu'n gyson.
“Rwyf eisiau i'n sector addysg bellach yng Nghymru fod yn flaenllaw o ran arloesi, creadigrwydd a chydweithio. Rwy'n falch iawn o weld sawl enghraifft o'r math yma o weithgarwch eisoes yn digwydd, ac yn falch hefyd i allu cadarnhau buddsoddiad pellach dros y blynyddoedd nesaf.”
Mae colegau eisoes yn defnyddio dulliau arloesol ar gyfer dysgu digidol, gan gynnwys Coleg Pen-y-bont ar Ogwr lle mae dysgwyr eisoes yn elwa ar gyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dysgu digidol. Mae'r coleg wedi datblygu gwasanaeth cipio a ffrydio fideo o ansawdd uchel a fydd yn gwella profiad dysgwyr ar draws nifer o feysydd pwnc.
Mae'r adran gofal anifeiliaid yn gallu gweld ffrydiau byw o anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol, sy’n golygu bod dysgwyr yn gallu gweld gweithgarwch fel ŵyna heb fod yn bresennol yn gorfforol.
Dywedodd Scott Morgan, Pennaeth Arloesi Digidol a Gwasanaethau TG yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr:
"Rydyn ni wedi defnyddio technoleg ddigidol i arloesi ein harferion addysgu ar draws nifer o feysydd, o Gwallt a Harddwch i'r Celfyddydau Perfformio, yn llwyddiannus iawn. Mae hyn wedi arwain at brofiadau dysgu rhyngweithiol ac wedi ein galluogi i ddefnyddio technoleg i gefnogi arddangosiadau ac asesiadau, a byddwn yn archwilio llawer mwy o gyfleoedd i’w defnyddio yn y dyfodol."
Mae cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru i Jisc yn galluogi colegau addysg bellach i gael mynediad at ystod o wasanaethau a chymorth digidol. Mae Jisc yn bartner allweddol ar gyfer fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol yng Nghymru, ac mae'n cynnal ymchwil a fydd yn helpu i nodi cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar ddysgu digidol yn y sector addysg bellach yn y dyfodol.