English icon English
Judith Paget-2

Judith Paget yn cael ei phenodi'n Brif Weithredwr GIG Cymru

Judith Paget appointed as Chief Executive of NHS Wales

Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, wedi cyhoeddi heddiw fod Judith Paget wedi cael ei phenodi, ar sail barhaol, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Mae Judith wedi bod yn gwneud y swydd ar sail dros dro ers mis Tachwedd 2021, ac wedi cael ei phenodi ar sail barhaol yn dilyn ymarfer recriwtio rhyngwladol trwyadl dan gadeiryddiaeth Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil.

Wrth drafod cael ei phenodi i'r swydd, dywedodd Judith:

"Mae'n fraint cael fy mhenodi i'r swydd bwysig hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidogion a sefydliadau GIG Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal o'r radd flaenaf."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Mae Judith wedi dangos rhagoriaeth wrth arwain a goruchwylio GIG Cymru yn ystod rhai o'i gyfnodau mwyaf anodd erioed. Hoffwn i ei llongyfarch ar gael ei phenodi, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau ein gwaith i sicrhau ein bod yn gallu ymfalchïo yn GIG Cymru."

Nodiadau i olygyddion

Notes

Judith was appointed to the role of Interim Director General of Health and Social Services/Chief Executive NHS Wales in November 2021.

Judith’s previous post was as Chief Executive of Aneurin Bevan University Health Board. Judith joined the Health Board as Director of Planning & Operations in 2009 and subsequently became Chief Operating Officer/Deputy CEO before her appointment as Chief Executive in 2014.

Judith has worked in the NHS since 1980 and has undertaken a variety of operational, planning and commissioning roles in a number of NHS organisations. Judith was appointed to her first CEO role in April 2003. Judith has a keen interest in partnership working across public services; primary care and community development; value based healthcare and staff development and engagement.

In June 2019 Judith was awarded a CBE in the Queen’s Birthday Honours for her services to delivery and management in NHS Wales

Judith will start her permanent role on with immediate effect.