Labordy newydd yn sicrhau y bydd babanod yng Nghymru yn cael eu sgrinio am fwy o gyflyrau

New lab means babies in Wales will be screened for more conditions

  • Labordy gwerth £1.21 miliwn yn Ysbyty Athrofaol Cymru i ehangu’r gwasanaeth sgrinio newydd-anedig yng Nghymru.
  • Cyllid ychwanegol gwerth £529,000 i ychwanegu Tyrosinemia Etifeddol Math 1 at y 9 cyflwr sydd eisoes yn cael eu sgrinio ar eu cyfer.
  • Bydd y buddsoddiad yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa i ystyried cymryd rhan yn y gwerthusiad ar gyfer sgrinio am atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (SMA) a diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID), ac unrhyw sgrinio cenedlaethol posibl yn y dyfodol.

Bydd babanod a gaiff eu geni yng Nghymru yn cael eu sgrinio am fwy o gyflyrau yn y dyfodol, a hynny yn sgil buddsoddiad gwerth £1.21 miliwn a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer cyfleuster labordy newydd.

Mewn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, nodwyd y bydd Gwasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru Gyfan yn cael ei ehangu drwy labordy biocemeg newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae cyllid ychwanegol gwerth £529,000 hefyd wedi’i sicrhau i ehangu’r rhaglen sgrinio newydd-anedig i gynnwys profi ar gyfer Tyrosinemia Etifeddol Math 1.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen sgrinio newydd-anedig yn sgrinio pob baban sydd wedi’u geni yng Nghymru (tua 28,000 y flwyddyn) am 9 clefyd prin ond difrifol, fel ffeibrosis systig ac isthyroidedd cynhenid. Fodd bynnag, nid yw cyfleusterau profi presennol y gwasanaeth yn ddigon mawr i gyflwyno profion newydd.

Bydd y labordy newydd yn darparu digon o le a seilwaith i ddechrau profi ar gyfer Tyrosinemia Etifeddol Math 1, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, yn ogystal â chynnal ymchwil a phrofion a argymhellir yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’r Pwyllgor wrthi’n llunio tystiolaeth ac yn gwerthuso a ddylid cynnwys atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (SMA) a diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID) yn rhan o raglenni sgrinio newydd-anedig ledled y DU.

O ganlyniad, gellir trin babanod sy’n profi’n bositif am gyflyrau y cynhelir profion sgrinio ar eu cyfer yn gynnar, gan wella eu hiechyd ac, mewn rhai achosion, atal anabledd difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae’r prawf yn cynnwys cymryd sampl fach o waed o sawdl y babi, yn ddelfrydol ar ddiwrnodau 4-6 o fywyd y babi.  Caiff y prawf ei gynnal fel arfer gan fydwraig ac mae’n rhan o ofal ôl-enedigol arferol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:

“Mi fydd y labordy newydd yma yn moderneiddio ein seilwaith sgrinio newydd-anedig yng Nghymru ac yn ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Ry’n ni’n gwybod bod sgrinio yn achub bywydau ac mae’r datblygiad yma yn golygu y byddwn ni mewn sefyllfa dda i ymateb i ddatblygiadau ac argymhellion sgrinio yn y dyfodol.

“Mae’r buddsoddiad yma yn pwysleisio ymrwymiad clir ein Llywodraeth i sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod. Drwy ganfod cyflyrau iechyd difrifol yn fuan ar ôl eu geni, mae’n golygu bod modd rhoi triniaethau yn gynnar a all wella canlyniadau ac atal cymhlethdodau gydol oes. Mae’r cyfleuster labordy newydd yma yn ddatblygiad i’w groesawu i’n rhaglen sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yng Nghymru.”