Newyddion

Canfuwyd 5 eitem

DMPPH - Men B vaccine centre-5

Y Dirprwy Weinidog yn annog pobl ifanc i ddychwelyd am ail ddos o frechlyn

  • O'r wythnos hon ymlaen, bydd pobl ifanc yn cael yr ail ddos o'r brechlyn MenB
  • Mae dros 17,000 wedi dod ymlaen am eu dos cyntaf
  • Mae amser o hyd i'r rhai sydd yn y garfan gymwys gael eu dos cyntaf
  • Mae'r ddau ddos yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyniad llawn.
Welsh Government

Rhaid i Gymru fynd i'r afael ag achosion salwch, nid dim ond y canlyniadau

  • Am y tro cyntaf ers datganoli, mae gan Gymru Weinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd ataliol
  • Bydd trefniadau llywodraethu trawslywodraethol newydd yn sicrhau bod atal a gwella iechyd yn rhan annatod o bob penderfyniad a gwariant gan Lywodraeth Cymru
  • Mae camau gweithredu cynnar yn cynnwys cyflwyno rhaglenni gweithgarwch corfforol ar draws ysgolion cynradd, mynd i’r afael â'r defnydd o fepio ymysg plant a phobl ifanc, datblygu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint, helpu pobl i gael mynediad at fwyd maethlon ac ymestyn y rhaglen frechu cyn y gaeaf.
Pontypool 60 plus Weightlifting

Tystiolaeth newydd yn dweud bod pob cam yn cyfrif i wella’ch iechyd

  • Mae ymgymryd ag ychydig bach mwy yn unig o weithgarwch corfforol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd os nad ydych chi’n gwneud ymarfer corff ar hyn o bryd – dyna yw neges y Prif Swyddogion Meddygol.
  • Mae pob gweithgarwch yn cyfrif – o gerdded a defnyddio’r grisiau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Mae pawb yn elwa beth bynnag yw ei lefel ffitrwydd – gan gynnwys y rheini sydd â chyflyrau hirdymor.
Welsh Government

Lleisiwch eich barn ar gyfyngiadau llymach i wneud fepio yn llai deniadol i blant a phobl ifanc

  • Mae’r cynigion yn cynnwys deunyddiau pecynnu plaen, cyfyngu ar arddangos fêps mewn siopau a chyfyngu ar enwau blasau fêps
  • Mae pob un o bedair gwlad y DU yn ymgynghori gyda’i gilydd ar reolau newydd ar gyfer cynhyrchion fepio
  • Gofynnir i’r cyhoedd a busnesau ddweud eu dweud cyn 2 Hydref
Deputy Minister for Public and Preventative Health - Nerys Evans

Cyflwyno brechlyn Men B i bobl ifanc yng Nghymru cyn y flwyddyn academaidd newydd

Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (Men B) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser.