Rhaid i Gymru fynd i'r afael ag achosion salwch, nid dim ond y canlyniadau
Wales must tackle the causes of ill health, not just the consequences
- Am y tro cyntaf ers datganoli, mae gan Gymru Weinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd ataliol
- Bydd trefniadau llywodraethu trawslywodraethol newydd yn sicrhau bod atal a gwella iechyd yn rhan annatod o bob penderfyniad a gwariant gan Lywodraeth Cymru
- Mae camau gweithredu cynnar yn cynnwys cyflwyno rhaglenni gweithgarwch corfforol ar draws ysgolion cynradd, mynd i’r afael â'r defnydd o fepio ymysg plant a phobl ifanc, datblygu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint, helpu pobl i gael mynediad at fwyd maethlon ac ymestyn y rhaglen frechu cyn y gaeaf.
Heddiw, amlinellodd Gweinidog cyntaf Cymru sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd ataliol ei blaenoriaethau i'r Senedd.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, yn glir bod gwella iechyd y boblogaeth yn ganolog i uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru, o adnewyddu'r economi i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, a bod angen gweithredu ar draws y llywodraeth gyfan.
I fynd i'r afael â gordewdra ac anweithgarwch corfforol, cadarnhaodd Evans fod gwaith eisoes ar y gweill i hyrwyddo'r fenter Milltir Egnïol a'r Daily Mile Foundation ar draws ysgolion cynradd, ac y bydd yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon i gryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a sefydliadau chwaraeon.
Cadarnhaodd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo ar dybaco a fêps, gan gynnwys mynd i’r afael â’r cynnydd yn y defnydd o fepio ymysg ein plant a’n pobl ifanc, a datblygu’r rhaglen genedlaethol sgrinio’r ysgyfaint.
Bydd strategaeth fwyd i Gymru yn cael ei datblygu ar y cyd â'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig i gryfhau ein system fwyd, helpu pobl i gael mynediad at fwyd fforddiadwy a maethlon, hyrwyddo dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy, a gwella addysg ac ymwybyddiaeth yn ein hysgolion.
O ran brechlynnau, bydd rhaglen frechu MenB dros gyfnod penodol ac ehangu'r rhaglen frechu rhag Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn helpu i leihau nifer y bobl y bydd afiechydon difrifol yn effeithio arnynt y gaeaf hwn.
Bydd trefniadau llywodraethu trawslywodraethol newydd yn sicrhau bod atal a gwella iechyd yn rhan annatod o bob penderfyniad a gwariant gan y Llywodraeth. Bydd strategaeth iechyd cyhoeddus newydd i Gymru yn cael ei chydgynhyrchu gyda phartneriaid a'r cyhoedd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Mewn cyfnod pan fo'r galw am wasanaethau'n cynyddu, anghenion pobl yn mynd yn fwy cymhleth, a phwysau ariannol yn dwysáu, mae'n rhaid inni symud o reoli salwch at fynd i'r afael â'i achosion sylfaenol.
"Am gyfnod rhy hir, mae ein modelau, ein prosesau a'n ffyrdd o weithio wedi canolbwyntio ar ymateb i argyfyngau, yn hytrach nag ar eu hatal a helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.
"Mae hynny'n newid nawr. O dan y Llywodraeth hon, fydd llwyddiant ddim yn cael ei fesur yn ôl nifer y derbyniadau i'r ysbyty, ond yn ôl nifer y bobl sy'n aros yn ddigon iach i osgoi cael eu derbyn yn y lle cyntaf."