Newyddion
Canfuwyd 4 eitem
Rhaid i Gymru fynd i'r afael ag achosion salwch, nid dim ond y canlyniadau
- Am y tro cyntaf ers datganoli, mae gan Gymru Weinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd ataliol
- Bydd trefniadau llywodraethu trawslywodraethol newydd yn sicrhau bod atal a gwella iechyd yn rhan annatod o bob penderfyniad a gwariant gan Lywodraeth Cymru
- Mae camau gweithredu cynnar yn cynnwys cyflwyno rhaglenni gweithgarwch corfforol ar draws ysgolion cynradd, mynd i’r afael â'r defnydd o fepio ymysg plant a phobl ifanc, datblygu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint, helpu pobl i gael mynediad at fwyd maethlon ac ymestyn y rhaglen frechu cyn y gaeaf.
Tystiolaeth newydd yn dweud bod pob cam yn cyfrif i wella’ch iechyd
- Mae ymgymryd ag ychydig bach mwy yn unig o weithgarwch corfforol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd os nad ydych chi’n gwneud ymarfer corff ar hyn o bryd – dyna yw neges y Prif Swyddogion Meddygol.
- Mae pob gweithgarwch yn cyfrif – o gerdded a defnyddio’r grisiau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Mae pawb yn elwa beth bynnag yw ei lefel ffitrwydd – gan gynnwys y rheini sydd â chyflyrau hirdymor.
Lleisiwch eich barn ar gyfyngiadau llymach i wneud fepio yn llai deniadol i blant a phobl ifanc
- Mae’r cynigion yn cynnwys deunyddiau pecynnu plaen, cyfyngu ar arddangos fêps mewn siopau a chyfyngu ar enwau blasau fêps
- Mae pob un o bedair gwlad y DU yn ymgynghori gyda’i gilydd ar reolau newydd ar gyfer cynhyrchion fepio
- Gofynnir i’r cyhoedd a busnesau ddweud eu dweud cyn 2 Hydref
Cyflwyno brechlyn Men B i bobl ifanc yng Nghymru cyn y flwyddyn academaidd newydd
Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (Men B) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser.